1.1 Mynegi gweddill fel degolyn
I rannu gwobr o £125 rhwng 5 ffrind, byddech yn gwneud y cyfrifiad hwn:
£125 ÷ 5 a chael yr ateb sef £25.
Mae hwn yn swm cyfleus, union o arian. Fodd bynnag, yn aml pan fyddwch yn gwneud cyfrifiadau, yn arbennig rhai sy’n cynnwys rhannu, nid ydych bob amser yn cael ateb sy’n addas i’r cwestiwn.
Er enghraifft, pe bai 4 ffrind yn rhannu’r un wobr, byddem yn gwneud y cyfrifiad £125 ÷ 4 a chael yr ateb £31 ac £1 yn weddill. Pe baem ni’n gwneud yr un cyfrifiad ar gyfrifiannell, byddech yn cael yr ateb £31.25; mae’r gweddill wedi’i drosi i ddegolyn. Dewch inni edrych ar sut i fynegi’r gweddill fel degolyn.
Gallwch ysgrifennu un cant a dau ddeg pump o bunnoedd mewn dwy ffordd wahanol: £125 neu £125.00. Mae’r ddwy ffordd yn dangos yr un swm, ond mae’r ail ffordd yn caniatáu ichi barhau â’r cyfrifiad a’i fynegi fel degolyn.
Gallwn ddefnyddio’r un egwyddor gydag unrhyw rhif cyfan, gan ychwanegu cynifer o seroau ar ôl y pwynt degol ag mae eu hangen. Edrychwch ar yr enghraifft ganlynol.
Mae athrawes eisiau rhannu 35 kg o glai rhwng 8 grŵp o fyfyrwyr. Faint o glai fydd pob grŵp yn cael?
Gallwch weld y byddai pob grŵp yn cael 4.375 kg o glai.
Activity _unit2.1.3 Gweithgaredd 3: Mynegi gweddill fel degolyn
Gweithiwch allan yr atebion i’r canlynol heb ddefnyddio cyfrifiannell.
178 ÷ 4
212 ÷ 5
63 ÷ 8
227 ÷ 4
Ateb
44.5
42.4
7.875
56.75