Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Ymdrin â rhifau mawr

Mae’n bwysig gallu gwneud cyfrifiadau gyda rhifau o unrhyw faint. Gellir ysgrifennu rhifau mawr mewn gwahanol ffyrdd e.e.

Extract _unit2.2.1

1 200 000 (un miliwn, dau gan mil) neu gellir ei ysgrifennu fel 1.2 miliwn.

Dyma enghraifft arall:

Extract _unit2.2.2

4 250 000 000 (pedwar biliwn, dau gant a phum deg miliwn) yw 4.25 biliwn.

Yn aml, mae’n haws ymdrin â rhifau mawr iawn pan maen nhw wedi’u hysgrifennu fel degolion.

Sylwch fod y pwynt degol wedi’i roi ar ôl y miliynau neu filiynau cyfan.

Awgrym: Mil miliwn yw biliwn.

Gall defnyddio grid gwerth lle eich helpu i ddarllen rhifau mawr, gan ei fod yn grwpio’r digidau ichi, gan ei gwneud yn haws darllen y rhif cyfan.

Sylwch sut caiff y rhifau uchod eu hysgrifennu yn y grid gwerth lle hwn.

Table _unit2.2.1 Tabl 1
HighlightedBiliynau Miliynau HighlightedMiloedd
HighlightedBiliynau Cannoedd o filiynau Degau o filiynau Miliynau HighlightedCannoedd o filoedd HighlightedDegau o filoedd HighlightedMiloedd Cannoedd Degau Unedau
Highlighted     

 

1

Highlighted

 

2

Highlighted

 

0

Highlighted

 

0

 

0

 

0

 

0

Highlighted

 

4

 

2

 

5

 

0

Highlighted

 

0

Highlighted

 

0

Highlighted

 

0

 

0

 

0

 

0

Weithiau wrth ymdrin â rhifau mawr, mae’n synhwyrol i’w talgrynnu. Er enghraifft, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi mai nifer y bobl sy’n ddi-waith yn y Deyrnas Unedig ym mis Chwefror 2019 yw 1.36 miliwn. Ni fydd 1 360 000 o bobl yn union yn ddi-waith, ond trwy dalgrynnu’r gwerth union a’i ysgrifennu fel 1.36 miliwn, mae’n haws i’w ddeall.

Activity _unit2.2.1 Gweithgaredd 6: Talgrynnu rhifau mawr

Mae’r tabl canlynol yn rhoi poblogaeth gwledydd.

Talgrynnwch bob poblogaeth i’r miliwn agosaf ac ysgrifennu’r ffigur yn ei ffurf gryno, gan ddefnyddio degolion lle bo angen.

Table _unit2.2.2 Tabl 2(a)
Gwlad Poblogaeth
Y Deyrnas Unedig 66 959 016
Tsieina 1 420 062 022

Ateb

Table _unit2.2.3 Tabl 2(b)
Gwlad Poblogaeth Poblogaeth wedi’i thalgrynnu Ffurf gryno
Y Deyrnas Unedig 66 959 016 Highlighted67 000 000 Highlighted67 miliwn
Tsieina 1 420 062 022 Highlighted1 420 000 000 Highlighted1.42 biliwn