2.1 Cyfrifiadau gyda rhifau mawr
Y ffordd orau i arfer â’r mathau hyn o gyfrifiadau yw mynd at enghraifft yn syth.
Case study _unit2.2.1 Enghraifft: Cyfrifiadau gyda rhifau mawr
Cyfrifwch gyfanswm poblogaeth Malta (0.4 miliwn) a Chyprus (1.2 miliwn).
Dull 1
Gweithio yn y ffurf gryno:
1.2 + 0.4 = 1.6 miliwn
Dull 2
Ysgrifennu’r rhifau’n llawn:
1 200 000 + 400 000 = 1 600 000 (1.6 miliwn)
Activity _unit2.2.2 Gweithgaredd 7: Cyfrifiadau gyda rhifau mawr
Cyfrifwch gyfanswm trosiant cwmni Cambria Trading am y chwarter cyntaf (3 mis).
Mis | Elw (£ miliwn) |
Ionawr | 1.2 |
Chwefror | 0.9 |
Mawrth | 0.85 |
Ebrill | 1.1 |
Mai | 1.02 |
Mehefin | 0.87 |
Gorffennaf | 1.19 |
Awst | 0.98 |
Medi | 1.05 |
Hydref | 1.08 |
Tachwedd | 1.8 |
Rhagfyr | 1.65 |
Cyfrifwch drosiant y chwarter olaf.
Cyfrifwch y gwahaniaeth mewn trosiant rhwng y chwarter cyntaf a’r chwarter olaf.
a.Ym mha fis cafwyd y trosiant mwyaf?
b.Ym mha fis cafwyd y trosiant lleiaf?
c.Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y trosiant mwyaf a’r trosiant lleiaf?
Ateb
Elw yn y chwarter cyntaf 1.2 + 0.9 + 0.85 = £2.95 miliwn
Elw yn y chwarter olaf 1.08 + 1.8 + 1.65 = £4.53 miliwn
Y gwahaniaeth yw 4.53 − 2.95 = £1.58 miliwn
a.Cafwyd y trosiant mwyaf ym mis Tachwedd sef £1.8 miliwn.
b.Cafwyd y trosiant lleiaf ym mis Mawrth sef £0.85 miliwn.
c.Y gwahaniaeth yw 1.8 − 0.85 = £0.95 miliwn.
Crynodeb
Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu sut i:
ysgrifennu rhifau mawr yn llawn ac mewn ffurfiau cryno
- talgrynnu rhifau mawr
- adio a thynnu rhifau mawr.