6.2 Cyfartaledd cymedrig
Nawr byddwch yn dysgu am:
- ganfod y cymedr pan roddir set o ddata ichi
- canfod y cymedr o dabl amlder
Mae’r cymedr yn ddull da i’w ddefnyddio pan fyddwch eisiau cymharu set fawr o ddata, er enghraifft:
- y swm cyfartalog a wariwyd gan gwsmeriaid mewn siop
- cost cyfartalog tŷ mewn ardal benodol
- yr amser cyfartalog a gymerwyd i’r gwasanaeth atgyweirio ceir a ddewisoch gyrraedd eich car.
Gall y cyfartaledd cymedrig ein helpu ni i gymharu setiau o ddata sydd wedyn yn gallu eich helpu i wneud penderfyniad.