Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6.3 Canfod y cymedr o set o ddata

I ganfod cymedr set syml o ddata, y cyfan mae angen ichi ei wneud yw canfod cyfanswm yr holl eitemau gyda’i gilydd ac yna rhannu’r cyfanswm hwn â nifer yr eitemau o ddata sydd.

Table _unit5.6.6 Tabl 13 (wedi’i ail-adrodd)
Llun Mawrth Mercher Iau Gwener Sadwrn Sul
56 kg 60 kg 58 kg 62 kg 65 kg 49 kg 58 kg

Edrychwch eto ar bwysau’r afalau, mewn kg, y casglodd un gweithiwr bob dydd ar fferm afalau (a ddangosir uchod). Os ydych eisiau cyfrifo cyfartaledd cymedrig pwysau’r afalau a gasglwyd, yn gyntaf rhaid ichi ganfod cyfanswm pwysau’r afalau a gasglwyd yn ystod yr wythnos:

  • 56 + 60 + 58 + 62 + 65 + 49 + 58 = 408 kg

Nesaf, rhannwch y cyfanswm hwn â nifer yr eitemau data, sef 7 yn yr achos hwn:

  • 408 ÷ 7 = 58.3 kg (wedi’i dalgrynnu i un lle degol)

Mae’n bwysig nodi y gall y cymedr fod yn rhif degol hyd yn oed os gwnaethoch adio rhifau cyfan at ei gilydd.

Peth pwysig arall i’w nodi yw bod y ddau swm (yr adio ac yna’r rhannu) yn cael eu gwneud fel dau swm ar wahân. Pe baech yn ysgrifennu:

  • 56 + 60 + 58 + 62 + 65 + 49 + 58 ÷ 7

ni fyddai’n gywir (ydych chi’n cofio CORLAT o Sesiwn 1?) Oni bai eich bod yn mynd i ddefnyddio cromfachau i ddangos pa swm mae angen ei wneud yn gyntaf (56 + 60 + 58 + 62 + 65 + 49 + 58) ÷ 7, mae’n gywir i ysgrifennu dau gyfrifiad ar wahân.

Rhowch gynnig ar gyfrifo’r cymedr drosoch eich hun trwy gwblhau’r gweithgaredd isod.

Activity _unit5.6.2 Gweithgaredd 12: Canfod y cymedr

  1. Mae’r tabl isod yn dangos pris gwerthu 10 o dai pâr 2 ystafell wely mewn tref yn Lerpwl.
Table _unit5.6.7 Tabl 16
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10
£70 000 £65 950 £66 500 £71 200 £68 000 £62 995 £70 500 £68 750 £59 950 £67 900
  • Beth yw’r pris tŷ cymedrig yn yr ardal?

Ateb

  1. Yn gyntaf, canfyddwch gyfanswm prisiau’r tai:

    • £70 000 + £65 950 + £66 500 + £71 200 + £68 000 + £62 995 + £70 500 + £68 750 + £59 950 + £67 900 = £671 745

    Nawr rhannwch y cyfanswm hwn â nifer y tai (10):

    • £671 745 ÷ 10 = £67 174.50
  1. Mae’r tabl isod yn dangos yr unedau nwy a ddefnyddiwyd mewn cartref yn ystod 6 mis cyntaf y flwyddyn.
Table _unit5.6.8 Tabl 17
Ionawr Chwefror Mawrth Ebrill Mai Mehefin
1650 1875 1548 1206 654 234
  • Cyfrifwch nifer gymedrig yr unedau nwy a ddefnyddiwyd yn fisol.

Ateb

  1. Canfyddwch gyfanswm yr unedau a ddefnyddiwyd:

    • 1650 + 1875 + 1548 + 1206 + 654 + 234 = 7167 o unedau

    Nawr rhannwch y cyfanswm hwn â nifer y misoedd (6):

    • 7167 ÷ 6 = 1194.5 o unedau

Mae’r dull hwn o ganfod y cymedr yn iawn os yw’ch set o ddata yn un cymharol fach. Beth os yw’ch set o ddata’n llawer mwy? Yn yr achos hwn, mae’n debyg na fyddai’r data wedi’u cyflwyno fel rhestr o rifau. Mae’n fwy tebygol y byddai’r data wedi’u cyflwyno mewn tabl amlder.

Yn y rhan nesaf o’r adran hon, byddwch yn dysgu sut i ganfod y cymedr pan gaiff data eu cyflwyno fel hyn.