Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)
Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch ar y cwrs hwn i olrhain eich dysg.

Cyflwyniad

Bydd y cwrs hwn, Meddylfryd mentora (A mentoring mindset), yn eich helpu chi i ddatblygu’ch dealltwriaeth am fentora’n effeithiol athrawon ar ddechrau eu gyrfa yn yr ysgol, boed ydynt mewn addysg gychwynnol i athrawon neu newydd gymhwyso fel athro. Mae’r cwrs yn eich galluogi chi i ystyried egwyddorion mentora effeithiol, a sut all eich rôl ddatblygu i fod yn un hyfforddi wrth i’r athro ar ddechrau ei yrfa yr ydych yn ei fentora dyfu fel athro.

Mae bod yn fentor yn rôl bwysig gan eich bod yn addysgwr athrawon yng nghyd-destun eich ysgol. Rhaid i athrawon ar ddechrau eu gyrfa ddatblygu mewn proses ddi-dor o ymgyfarwyddo ag egwyddorion addysgu a dysgu, a’u cyfnerthu, i allu ymarfer yn ymreolaethol os ydynt am ennill eu lle fel athro proffesiynol. Byddwch chi’n rhoi’r gefnogaeth iddynt, ac yn eu herio, er mwyn cyflawni hyn.

Mae mentora yn rôl heriol ond yn werth chweil, wrth i chi fyfyrio ar eich arferion addysgu ac arwain eich hunan, ac yn helpu eraill i ennill eu lle yn y gymuned o athrawon proffesiynol ac effeithiol.