Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)
Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch ar y cwrs hwn i olrhain eich dysg.

Wythnos 1: Beth mae bod yn fentor i athro ar ddechrau ei yrfa yn ei olygu?

Cyflwyniad

Bydd yr wythnos hon yn eich cynorthwyo chi i ddatblygu’ch dealltwriaeth am fentora’n effeithiol athrawon ar ddechrau eu gyrfa yn yr ysgol. Mae wedi’i dylunio i’ch galluogi chi ddeall mentora effeithiol. Fel y pwysleisir, mae gan fentoriaid rôl bwysig fel addysgwyr athrawon yng nghyd-destun ysgolion, o ran cefnogi a herio athrawon ar ddechrau eu gyrfa i sicrhau eu bod yn datblygu o fod angen ymgyfarwyddo â’r rôl ac arferion sydd ynghlwm â bod yn athro i gyfnerthu’r syniadau hynny, ac yn y pendraw, eu bod yn meddu ar y gallu i ddod yn athrawon ymreolaethol. Archwilir hefyd buddion mentora, wrth i chi fyfyrio ar eich arferion addysgu ac arwain eich hunan.

Cynlluniwr gweithgareddau
Gweithgaredd Deilliannau dysgu Amser
Gweithgaredd 1 Mentora o wahanol bersbectifau Gwyliwch y fideo a nodwch y disgwyliadau gwahanol sydd gan bobl o rôl mentor mewn ysgol. 20 mun
Gweithgaredd 2 Myfyrio ar sgiliau mentora, a’u harchwilio Llenwch dabl o’ch sgiliau mentora ac archwiliwch eich sgiliau presennol. 30 mun
Gweithgaredd 3 Hyrwyddo deialog fyfyriol Adolygwch dwy ddeialog ac awgrymwch welliannau. 30 mun