Wythnos 3: Datblygu o fentora i hyfforddi
Cyflwyniad
Yr wythnos hon, byddwch yn ystyried sut all y berthynas rhwng y mentor a’r sawl sy’n cael ei fentora newid a datblygu dros amser, gan dynnu ar y cysyniad o fentora fel proses ddi-dor, fel y trafodwyd yn Wythnos 2.
Dros amser, bydd y berthynas sydd gan fentor a’r sawl sy’n cael ei fentora yn newid a datblygu. Fel rhan o’r newid hwn, gall rôl y mentor ddatblygu i fod yn fwy tebyg i rôl hyfforddwr. Ystyrir y rôl hon yn un sy’n cefnogi rhywun wrth iddo ddechrau ymgymryd â rôl a hunaniaeth athro: athro ar ddechrau ei yrfa sy’n agosáu at agwedd ‘ymreolaethol’ y broses ddi-dor.
Mae’n gydnabyddedig nad yw’n hawdd diffinio’r termau ‘mentor’ a ‘hyfforddwr’. Yn ogystal, weithiau caiff y ddau derm eu cyfnewid mewn camgymeriad (Mullen, 2012). Yn sicr, mae nifer o elfennau tebyg yn rolau mentor a hyfforddwr. Er enghraifft, mewn cyd-destun addysgiadol, mae’r mentor a’r hyfforddwr ynghlwm â:
- chefnogi cydweithiwr proffesiynol
- hwyluso datblygiad proffesiynol
- magu perthynas gwaith
- trafod syniadau gydag ymddiriedaeth, parch a gonestrwydd.
Yr wythnos hon, byddwch yn canolbwyntio ar sut beth yw rôl hyfforddi mewn ysgol, a sut mae gwneud defnydd effeithiol o dechnegau hyfforddi i gefnogi athrawon ar ddechrau eu gyrfa yn eu haddysg gychwynnol i athrawon ac yn syth ar ôl cymhwyso.
Gweithgaredd | Deilliannau dysgu | Amser |
Gweithgaredd 1 Mentora neu hyfforddi? | Deall y gwahaniaeth rhwng mentora a hyfforddi. | 10 mun |
Gweithgaredd 2 Deialog hyfforddi |
Ystyried cwestiynau, a’u haralleirio. | 2 x 15 mun |
Gweithgaredd 3 Datblygu sgiliau gwrando | Gwyliwch fideo a rhestrwch bedwar neu bum pwynt gweithredu. | 10 mun |
Gweithgaredd 4 Gwella deialog hyfforddi | Defnyddio technegau hyfforddi ar waith. | 20 mun |
Gweithgaredd 5 Arsylwi a chefnogi | Amlinellwch eich barn am arsylwi gwersi. | 20 mun |