Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
Cwrs am ddim

Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)

Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)

Bydd y cwrs rhad ac am ddim hwn, Meddylfryd mentora (A mentoring mindset). Yn cefnogi unrhyw un sy’n gweithio yn y byd addysg i ddatblygu dealltwriaeth am fentora athrawon ar ddechrau eu gyrfa yn effeithiol yn ystod addysg gychwynnol i athrawon ac yn syth ar ôl cymhwyso. Mae wedi’i ddylunio drwy dynnu ar brofiadau cydweithwyr system addysg Cymru. Mae’r negeseuon ynghylch egwyddorion mentora a hyfforddi effeithiol a’r rôl bwysig mae mentoriaid yn ei chwarae fel addysgwyr athrawon yng nghyd-destun ysgolion yn parhau’r un fath ar draws systemau addysg.

Bydd y cwrs yn gwella eich dealltwriaeth am rôl mentor o ran cefnogi athro ar ddechrau ei yrfa wrth iddo ddatblygu ymgyfarwyddiad parhaus ag egwyddorion addysgu a dysgu, a’u cyfnerthu, i allu ymarfer yn ymreolaethol. Archwilir hefyd mentora fel datblygiad proffesiynol, wrth i chi fyfyrio ar eich arferion addysgu ac arwain eich hunan.

Deilliannau dysgu'r cwrs

Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:

  • deall egwyddorion mentora effeithiol yn addysg gychwynnol i athrawon a rôl y mentor fel addysgwr athrawon mewn cyd-destun ysgol 
  • deall bod mentora yn broses ddi-dor sydd hefyd yn cynnwys hyfforddi
  • rhoi damcaniaethau mentora a hyfforddi o fewn ymarfer athrawon ar waith wrth gefnogi athrawon ar ddechrau eu gyrfa
  • deall bod mentora yn gyfle ar gyfer dysg broffesiynol er mwyn datblygu ymarferion addysgu ac arwain personol.

Cyhoeddwyd gyntaf: 29/07/2022

Wedi'i ddiweddaru: 29/07/2022

Hepgor Graddau y Cwrs