Wythnos 2: Datblygu gyda’r sawl yr ydych yn ei fentora – mentora fel proses ddi-dor
Cyflwyniad
Yn Wythnos 1, cawsoch eich cyflwyno i egwyddorion mentora effeithiol. Mae’r wythnos hon yn canolbwyntio ar sut all mentora ddatblygu a newid wrth i chi a’r sawl yr ydych yn ei fentora ennill profiad a magu hyder. Yn y rhan gyntaf, trafodir y prif ffactorau yn y broses ddi-dor hon, ac yna canolbwyntir ar ddamcaniaethau mentora a sut mae’r rhain yn berthnasol i ymarfer. Bydd yr wythnos yn dod i ben drwy ystyried sut all ymchwil gefnogi’ch ymarfer mentora.
Gweithgaredd | Deilliannau dysgu | Amser |
Gweithgaredd 1 Cefnogi neu herio? | Adolygwch y tabl sefyllfaoedd ac ystyriwch sut fyddech chi’n ymateb. | 20 mun |
Gweithgaredd 2 Perthnasoedd symbiotig | Gwyliwch fideo, a myfyriwch ar eich profiad eich hun. | 30 mun |
Gweithgaredd 3 Cefnogi myfyrio mewn sefyllfaoedd gwahanol | Ymateb i sefyllfaoedd. | 20 mun |
Gweithgaredd 4 Damcaniaethau ar waith | Ymateb i sefyllfaoedd. | 10 mun |
Gweithgaredd 5 Dysg broffesiynol | Defnyddio model Lofthouse i feddwl am ddysg broffesiynol. | 20 mun |