Week 4: Rôl y mentor mewn dysgu proffesiynol
Cyflwyniad
Mae meddu ar fentor effeithiol yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i athro ar ddechrau ei yrfa, yn ei ganiatáu i ddatblygu o rywun sy’n anghyfarwydd a rôl athro i arbenigwr ymreolaethol. Yn yr wythnos derfynol hon, byddwch yn astudio’r syniad o fentora strategol a sut all gyd-fynd â’r ysgol gyfan, ac egwyddorion mentora effeithiol. Yn olaf, gofynnir i chi fyfyrio ar eich dysg drwy gydol y cwrs, ac ystyried sut allwch chi ddatblygu i ddod y math o fentor yr hoffech fod.
Gweithgaredd | Deilliannau dysgu | Amser |
Gweithgaredd 1 Mentora personoledig | Ystyriwch sefyllfa ac ysgrifennwch 200 o eiriau yn myfyrio arni. | 20 mun |
Gweithgaredd 2 Deuddeg egwyddor mentora | Gwyliwch fideo a rhowch y 12 egwyddor o fentora yn eu trefn. | 10 mun |
Gweithgaredd 3 Buddion mentora | Gwyliwch fideo ynghylch buddion mentora. | 5 mun |
Gweithgaredd 4 Myfyrio ar eich ymarfer mentora eich hun | Gwyliwch fideo a dychwelwch at yr archwiliad cychwynnol. | 40 mun |