Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Canllawiau i gyfranogwyr a hwyluswyr

Gallwch gwblhau’r cwrs hwn fel dysgwr unigol ar gyfrifiadur neu ffôn clyfar. Gellir defnyddio Egwyddorion ac arferion addysg heddwch hefyd fel sail i sesiynau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) gyda grŵp mwy.

Os ydych chi'n bwriadu defnyddio'r deunyddiau i hwyluso cwrs DPP, fe'ch anogir i weithio drwy'r deunyddiau eich hun cyn eu defnyddio i gynllunio DPP. Byddwch yn gallu ymgyfarwyddo â chysyniadau craidd y cwrs a dewis y deunyddiau a fydd fwyaf defnyddiol i chi eu defnyddio yn eich cyd-destun proffesiynol. Fe welwch ddulliau a fersiynau eraill o rai o'r gweithgareddau y gellir eu defnyddio gyda grŵp mwy (mae'r rhain yn ymddangos mewn blychau sy'n cael eu galw’n 'sesiynau DPP').

Dolenni allanol: rydym yn argymell eich bod chi’n agor dolenni mewn tab neu ffenestr newydd drwy ddal Ctrl [neu Cmd ar Mac] i lawr pan fyddwch chi’n clicio ar y ddolen. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws dychwelyd i dudalen y cwrs roeddech chi’n darllen amdano.