Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Y Crynwyr ym Mhrydain

Mae llawer o sefydliadau'n gweithio dros heddwch ac addysg heddwch yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Mae’r Brifysgol Agored yn cydweithio â’r Crynwyr ym Mhrydain [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] sy’n cyd-gadeirio’r Rhwydwaith Addysg Heddwch, casgliad o sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio ym maes addysg heddwch, gyda Pax Christi. Mae’r Crynwyr yn cefnogi ffyrdd amgen o ddatrys gwrthdaro a diarfogi byd-eang. Maent yn credu bod addysg yn allweddol i greu byd tosturiol a heddychlon ac maent yn arloeswyr mewn addysg heddwch.

Mae Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion (y Crynwyr) yn grŵp ffydd radical sydd â’i wreiddiau yng Nghristnogaeth. Daeth i’r amlwg yng nghanol yr ail ganrif ar bymtheg fel grŵp heb offeiriadaeth ar wahân, a chyda math o addoliad wedi ei seilio ar dawelwch. Mae’n credu bod ‘yr hyn sy'n perthyn i Dduw i'w gael ym mhawb’. Mae hyn wedi ysbrydoli’r Crynwyr i wneud safiad clir dros heddwch a diffyg trais.

Yn 2022, cyhoeddodd y Crynwyr ym Mhrydain adroddiad Peace at the Heart : A relational approach to education in British schools, y mae’r cwrs hwn yn seiliedig arno.