Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Cymru Global

Er mwyn sicrhau fersiwn Cymraeg o'r cwrs hwn mae'r Brifysgol Agored hefyd yn cydweithredu gyda Cymru Global, elusen sydd wedi'i lleoli yng Nghymru sy'n canolbwyntio ar heddwch, dinasyddiaeth fyd-eang a chyfiawnder cymdeithasol a hinsawdd, a adwaenid yn flaenorol fel Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA).

Mae Cymru Global yn gweithio er mwyn adeiladu byd tecach, mwy heddychlon a chynaliadwy drwy bum rhaglen rhyng-gysylltiedig: Dysgu Byd-eang, Heddwch ac Adeiladu Heddwch, Hinsawdd a Byd Natur, Gwirfoddoli a Threftadaeth Heddwch.

Wedi'i lleoli yn y Deml Heddwch hanesyddol yng Nghaerdydd, mae Cymru Global yn cysylltu pobl a chymunedau drwy addysg, treftadaeth a chydweithrediad rhyngwladol, camau gweithredu cymunedol, a mentrau amgylcheddol sy'n ysbrydoli newidiadau positif yng Nghymru a thu hwnt.

Fel y Crynwyr ym Mhrydain, mae Cymru Global hefyd yn aelod o'r Rhwydwaith Addysg Heddwch.

Ar gyfer fersiwn Cymraeg o'r cwrs, mae nifer o gydweithwyr Cymru Global wedi cyfrannu eu hamser yn garedig iawn er mwyn creu addasiadau Cymraeg o'r fideos cwrs Saesneg gwreiddiol gan ddarparu cyd-destun a dealltwriaeth werthfawr wedi'u lleoli yng Nghymru.