Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Sesiwn 1: Beth yw heddwch?

Cyflwyniad

Croeso i'r cwrs ar-lein rhad ac am ddim hwn, Egwyddorion ac arferion addysg heddwch, a fydd yn cynorthwyo eich datblygiad fel addysgwr heddwch myfyriol.

Yn y sesiwn gyntaf hon, byddwch yn myfyrio ar y gwerthoedd a’r credoau rydych chi’n eu cyfrannu at addysg heddwch. Cewch gyflwyniad i rai egwyddorion a chysyniadau cyffredinol sy'n llywio'r cwrs hwn, gan gynnwys yr egwyddor y gellir deall heddwch mewn ffyrdd amrywiol.

Erbyn diwedd y sesiwn, fe ddylech chi allu:

  • mynegi eich barn pan fyddwch chi’n meddwl am heddwch
  • dechrau deall modelau a chysyniadau o heddwch
  • dechrau meddwl am heddwch yn yr ysgol fel rhywbeth sy’n seiliedig ar berthynas gadarnhaol
  • ystyried sut gallai’r cysyniadau hyn fod yn berthnasol yn eich cyd-destun personol neu broffesiynol.

Sesiynau datblygiad proffesiynol parhaus (DPP)

Os ydych chi’n bwriadu defnyddio’r deunyddiau hyn fel DPP, cadwch olwg am y blychau hyn. Maent yn cynnig awgrymiadau ar gyfer addasu gweithgaredd i weithio gyda grŵp mwy fel rhan o sesiwn DPP.