Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.1 Heddwch ac addysgwyr heddwch

Byddwch yn dechrau drwy wylio cyflwyniad i addysg heddwch gan yr addysgwyr heddwch Bethan a Jane o Cymru Global. Mae gan y tîm brofiad hir o weithio gydag Addysg Heddwch yng Nghymru, gan gynnwys rhedeg Cynllun Ysgolion Heddwch yng Nghymru [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Mae Cymru Global yn gweithio i ddysgu, cydweithio a gweithredu dros heddwch, cyfiawnder cymdeithasol a hinsawdd, gan adeiladu cenedl o ddinasyddion byd-eang.

Gweithgaredd 1 Cyflwyno addysg heddwch

Timing: Caniatewch tua 5 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Yn y fideo hwn mae Bethan a Jane yn trafod eu syniadau am heddwch a sut mae'n llywio eu hymagwedd at addysg heddwch.

Download this video clip.Video player: Fideo 1
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Fideo 1
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwad

Yn y fideo, cyflwynodd Bethan a Jane nifer o syniadau y byddwch yn dod yn gyfarwydd â nhw drwy gydol y cwrs. Buont yn siarad am y berthynas rhwng eu profiadau bywyd a'r gwaith heddwch maent wedi ei wneud mewn gwahanol gyd-destunau. Efallai eich bod wedi sylwi ar gyfeiriadau at ‘haenau heddwch’ gan gynnwys heddwch personol, cymunedol a byd-eang. Byddwch yn dychwelyd at y syniad hwn o haenau o heddwch ar ddiwedd y sesiwn.

Yn y fideo, siaradodd Bethan a Jane am beth mae heddwch yn ei olygu iddyn nhw. Yn y gweithgareddau a ganlyn byddwch yn ystyried beth mae heddwch yn ei olygu i chi wrth i chi ddechrau gweithio drwy'r deunyddiau cwrs hyn.

Gweithgaredd 2 Eich syniadau am heddwch

Timing: Caniatewch tua 20 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Rhan 1

Defnyddiwch y blwch isod i nodi eich syniadau cychwynnol am beth mae heddwch yn ei olygu i chi. Os ydych chi’n dymuno, gallech dynnu llun o’ch syniadau mewn llyfr nodiadau, neu ffotograff (ond fyddwch chi ddim yn gallu ychwanegu delweddau na thynnu llun yn y blwch ymateb).

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Rhan 2

Yn awr, edrychwch ar y syniadau am heddwch a geir yn y dyfyniadau a’r delweddau isod (Ffigurau 2-5). Beth allai heddwch ei olygu ym mhob enghraifft?

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 2 Syniad plentyn o heddwch
Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 3 Dyfyniad enwog wedi’i briodoli i’r ymgyrchydd hawliau sifil o America, Martin Luther King Jr
Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 4 Martin Luther King Jr
Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 5 Protestwyr mewn protest heddwch

Sylwad

Mae llawer o ffyrdd o ddeall heddwch, ac i ryw raddau bydd y rhain yn deillio o brofiadau bywyd pobl. Er enghraifft, treuliodd Martin Luther King Jr ei oes yn gweithio dros hawliau pobl Ddu yn yr Unol Daleithiau ac felly mae’r canfyddiad o heddwch yn y dyfyniad uchod yn gysylltiedig â’r frwydr honno. Yn yr un modd, mae’r ddelwedd a’r darn ysgrifenedig gan y plentyn sy’n dymuno rhannu â’i chwiorydd yn adlewyrchu bywyd yn ei deulu a’r hyn sy’n gwneud iddo deimlo’n heddychlon yno. Mae’n bosib y bydd y ddelwedd olaf o faner heddwch mewn arddangosiad yn teimlo ychydig yn llai 'heddychlon' ond mae’n bosibl y bydd rhai pobl yn cysylltu heddwch â gweithredu dros newid cymdeithasol a gwleidyddol.

Rhan 3

Yn awr, ewch yn ôl at eich syniadau eich hun am heddwch. A oes unrhyw beth yr hoffech chi ei ychwanegu?

Meddyliwch am y cwestiynau hyn:

  • Beth allai lywio eich safbwynt ar heddwch?
  • Pa agweddau ar eich profiad bywyd ydych chi’n eu defnyddio pan fyddwch chi’n meddwl am heddwch?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sesiynau DPP

Gyda grŵp, gallech ddefnyddio’r dyfyniadau a’r delweddau uchod i ddechrau’r drafodaeth. Fodd bynnag, gallech ddefnyddio delweddau a gwrthrychau sy’n cyfleu gwahanol syniadau o heddwch sy’n fwy perthnasol i’ch cyd-destun eich hun.

Gwahoddwch eich cyfranogwyr i fynegi eu syniadau mewn unrhyw ffordd y dymunant. Gallent dynnu llun, dod o hyd i lun ar eu ffôn clyfar neu ysgrifennu rhywbeth. Gallech arddangos y gwahanol syniadau o gwmpas yr ystafell lle’r ydych chi’n gweithio fel bod modd dod yn ôl atynt wrth i chi weithio drwy'r sesiwn.

Nid oes atebion cywir nac anghywir ar gyfer y diffiniad o heddwch. Wrth i chi weithio drwy'r cwrs hwn, cadwch eich syniadau personol mewn cof. Yn Sesiwn 4, gofynnir i chi ystyried beth allai heddwch ei olygu i gymuned eich ysgol neu leoliad grŵp. Mae gweithgareddau fel y rhain yn helpu cymunedau i greu gweledigaethau ar y cyd ac ystyried sut gallent adeiladu cymunedau lle gallant ffynnu gyda’i gilydd.