Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Heddwch cadarnhaol

Mae llawer o lwybrau at heddwch a llawer o agweddau at addysg heddwch. Fodd bynnag, mae ymrwymiad i arferion di-drais wrth wraidd gwaith addysgwyr heddwch. Roedd Johan Galtung yn ddamcaniaethwr o Norwy ym maes astudiaethau heddwch a gafodd ddylanwad enfawr ar waith addysgwyr heddwch. Syniad poblogaidd gan Galtung yw heddwch cadarnhaol a negyddol.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 6 Johan Galtung

Yn namcaniaeth Galtung, mae heddwch cadarnhaol yn golygu nid yn unig absenoldeb pob math o drais (ac ofn trais), ond hefyd bresenoldeb cyfiawnder cymdeithasol a sefydliadau sy'n gefnogol a chytgord pellach (Cremin a Bevington, 2017). Pan fydd Martin Luther King Jr yn siarad am heddwch fel presenoldeb cyfiawnder, mae’n siarad am heddwch cadarnhaol. Nid absenoldeb rhywbeth yw hyn (tensiwn hiliol yn yr achos hwn), ond presenoldeb rhywbeth cadarnhaol (cyfiawnder yn yr achos hwn).

Gweithgaredd 3 Heddwch cadarnhaol a negyddol mewn ysgolion

Timing: Caniatewch tua 10 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Cliciwch ar y telerau isod i ddarllen sut mae Jackie Zammit, addysgwr heddwch sy’n gweithio yng ngorllewin canolbarth Lloegr, yn esbonio sut gallai syniadau Galtung o heddwch cadarnhaol a negyddol edrych mewn ysgolion. Wrth i chi ddarllen, ystyriwch pam gallai’r enghraifft a roddir gan Zammit ddangos y cysyniad o heddwch negyddol, a sut gellid mynd i’r afael â phroblem dadleuon pêl-droed o safbwynt heddwch cadarnhaol.

Jackie Zammit:

Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwad

Mae gwahardd pêl-droed i fynd i’r afael â phroblem dadleuon yn enghraifft o heddwch negyddol am sawl rheswm. Yn gyntaf, mae’n heddwch a orfodir gan y rhai mwy pwerus (oedolion) heb archwilio sut beth fyddai ateb heddychlon i’r bobl mae’r dadleuon yn effeithio’n uniongyrchol arnynt (nid y chwaraewyr pêl-droed dadleugar yn unig, ond hefyd y bobl y tarfir ar eu hamser egwyl). Yn ail, mae gosod ateb yn colli cyfle i blant a phobl ifanc ddatblygu nodweddion cymdeithasol ac emosiynol sy'n eu helpu i reoli profiadau heriol yn ogystal â'u sgiliau datrys gwrthdaro – yn ôl Zammit, rhan o'r gwaith caled mae angen ei wneud er mwyn sicrhau heddwch cadarnhaol mewn ysgolion (Zammit, 2018). Yn drydydd, er y gallai gwahardd pêl-droed fynd i’r afael â’r trais y gellir ei weld yn syth yn y dadleuon, mae’n bosibl na fydd yn mynd i’r afael â materion sylfaenol ynghylch yr hyn mae’r plant a’r bobl ifanc yn ei ystyried yn ‘gyfiawn’ ac yn ‘deg’ yn eu bywydau yn yr ysgol. Sylwch yma fod heddwch cadarnhaol yn mynd y tu hwnt i ystafelloedd dosbarth, i amser egwyl ac yn wir i bob rhan o fywyd ysgol.