Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.1 A yw’n heddwch i bawb?

Lle mae anghydbwysedd grym, fel y rhai rhwng oedolion a phlant a phobl ifanc mewn ysgolion, mae angen i addysgwyr heddwch fod yn ofalus rhag gorfodi heddwch nad yw’r bobl maen nhw’n gweithio gyda nhw’n ei ddeall nac yn ei groesawu. Mae'r ymchwilydd o’r Pilipinas, Cristina J. Montiel, yn trafod materion sy'n ymwneud ag anghydbwysedd heddwch a phŵer y mae hi wedi eu harchwilio yn ei hymchwil ar heddwch byd-eang. Archwiliodd achosion lle mae gwledydd mwy pwerus yn negodi heddwch gyda'r rhai llai pwerus, fel mewn achosion o wladychiaeth. Mae'n dadlau, mewn sefyllfaoedd o'r fath, bod y gwladychwr pwerus yn canolbwyntio trafodaethau heddwch ar roi'r gorau i drais. Ond mae’r grŵp llai pwerus yn aml yn ceisio cyfiawnder ac nid yw eu hanghenion yn cael eu diwallu. Er y gellid lleihau’r trais gweladwy, nid yw achosion sylfaenol y trais hwnnw’n cael sylw (Montiel, 2022).

Gallech feddwl am hyn mewn perthynas â’r dyfyniad gan Martin Luther King Jr yng Ngweithgaredd 1, bod heddwch yn fwy na diffyg tensiwn, neu’r plant a’r bobl ifanc nad ydynt bellach yn gallu chwarae pêl-droed yn yr ysgol yng Ngweithgaredd 3.

Arhoswch funud i ystyried i ba raddau y gall polisïau ac arferion yr ysgol orfodi syniad penodol o heddwch ar eu myfyrwyr (ac ar eu cymunedau ehangach o bosibl) heb yn gyntaf feithrin cysylltiadau sy'n meithrin safbwyntiau a dealltwriaeth a rennir.