3 Trais
Yn yr adran flaenorol, cyfeirir at heddwch fel absenoldeb pob math o drais. Dadleuodd Galtung fod deall trais a’i ffurfiau posibl yn bwysig er mwyn sicrhau a chynnal heddwch cadarnhaol.
Gan ddychwelyd at yr enghraifft bêl-droed, gallai’r dadleuon y gallai’r ysgol fod eisiau eu hatal gael eu hystyried yn enghreifftiau o drais uniongyrchol. Mae'r math hwn o drais yn cynnwys brwydrau corfforol a geiriol. Gallai trais uniongyrchol ddeillio o drais dyfnach, llai amlwg ar unwaith. Er enghraifft, trais diwylliannol sy’n disgrifio’r credoau a’r tybiaethau sy’n effeithio ar y ffyrdd mae grwpiau penodol o bobl yn cael eu trin. Mae hiliaeth, homoffobia ac ableddiaeth yn enghreifftiau o drais diwylliannol sy’n gallu dod i’r amlwg fwyaf pan fyddant yn arwain at drais uniongyrchol, ond maent hefyd yn cynnwys agweddau ac ymddygiad parhaus a allai gymryd rhywfaint o waith myfyriol i’w nodi.
Astudiaeth achos: Mathau o drais yn yr ysgol
Mewn ysgol yn Llundain lle bu cyd-awdur y sesiwn, Lucy Henning, yn gweithio rai blynyddoedd yn ôl, cafwyd llawer o drafodaethau yn yr ystafell athrawon am reoli dadleuon tanbaid y plant a oedd yn aml yn digwydd wrth chwarae pêl-droed, a oedd weithiau’n arwain at drais corfforol. A, do, fe wnaeth tîm arwain yr ysgol wahardd pêl-droed am gyfnod. Roedd hyn yn delio â thrais uniongyrchol y dadleuon wrth i gyfnodau egwyl ddod yn haws i staff yr ysgol eu rheoli.
Fodd bynnag, wrth i staff yr ysgol drafod caniatáu pêl-droed unwaith eto, daeth materion eraill i’r amlwg. Mae’n bosibl bod hyn yn swnio’n rhyfedd yn awr, ond bryd hynny, roedd staff a phlant yn yr ysgol yn gweld pêl-droed fel rhywbeth roedd bechgyn yn ei chwarae. Dyma enghraifft o drais diwylliannol oherwydd, heb sylweddoli hynny, roedd cymuned yr ysgol yn gwneud rhagdybiaeth rywiaethol bod pêl-droed ar gyfer bechgyn.
Ar ben hynny, roedd y lle a oedd yn cael ei ddefnyddio gan y gemau pêl-droed yn golygu bod y cyfleoedd i chwarae i’r plant nad oeddent yn bêl-droedwyr wedi eu cyfyngu i ymylon y maes chwarae, gan adael llai o le i chwarae i’r rhai nad oeddent yn chwarae pêl-droed (y rhan fwyaf ohonynt yn ferched), a blaenoriaethu anghenion un grŵp o blant dros eraill.
Pan adferwyd pêl-droed, roedd adegau arbennig i ferched chwarae yn ogystal ag adegau pan nad oedd pêl-droed yn cael ei ganiatáu, er mwyn caniatáu mwy o fynediad i bob plentyn wneud y gorau o faes chwarae’r ysgol.
