3.1 Trais strwythurol
Trydydd math o drais a nodwyd gan Galtung yw trais strwythurol. Fel trais diwylliannol, nid yw trais strwythurol bob amser yn hawdd ei weld, ond gall arwain at anghyfiawnderau ac annhegwch dwfn, hirdymor. Un enghraifft o drais strwythurol mewn ysgolion fyddai gofyniad i fyfyrwyr dalu am drip ysgol sy'n fuddiol i'w cwrs. Gallai hyn atal myfyrwyr o deuluoedd incwm isel rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau addysgol pwysig sy'n fwy hygyrch i'w cyfoedion cyfoethocach. Ceir enghraifft arall o drais strwythurol mewn addysg mewn ymchwil sy'n dangos sut mae myfyrwyr Du Prydeinig Caribïaidd yn fwy tebygol o gael eu gwahardd o'r ysgol na myfyrwyr gwyn Prydeinig a myfyrwyr Indiaidd Prydeinig (Cremin a Bevington, 2017, t. 21). Mae'r trais strwythurol hwn yn eithrio pobl ifanc o grwpiau cymdeithasol penodol yn anghymesur o addysg a'i manteision posibl.
Mae trais diwylliannol a strwythurol yn anoddach ei ddirnad na thrais uniongyrchol. Gallant fod yn barhaus ac yn llechwraidd ond serch hynny gall eu heffeithiau gael eu teimlo'n ddwfn gan y rhai sy'n cael eu heffeithio'n andwyol. Gall trais diwylliannol a strwythurol fod yn ffactor mewn trais uniongyrchol. Mae Standish yn ysgrifennu am sut mae trais diwylliannol yn caniatáu mathau eraill o drais (Standish, 2015, t. 10). Er enghraifft, mae rhagdybiaethau hiliol yn dod yn ffactor mewn mwy o waharddiadau ar gyfer plant Du (trais strwythurol), neu fyfyrwyr nad ydynt yn Ddu yn teimlo’n fwy hyderus i alw enwau neu ymosod yn gorfforol ar fyfyrwyr Du (trais uniongyrchol).
Gweithgaredd 4 Archwilio gwahanol fathau o drais
Edrychwch ar y diagram isod sy’n defnyddio’r trosiad mynydd iâ i ddangos sut gallai trais strwythurol a diwylliannol fod yn llai gweladwy (hynny yw, o dan y llinell ddŵr) na thrais uniongyrchol. Meddyliwch am yr enghraifft bêl-droed a ddisgrifiwyd yn yr astudiaeth achos yn gynharach ac atebwch y cwestiynau a ganlyn (teipiwch eich meddyliau yn y blychau yn y diagram).
- Pa fathau o drais a welir yn yr enghraifft bêl-droed?
- Sut mae'r gwahanol fathau o drais yn gysylltiedig?
Sylwad
Mae meddwl am bêl-droed fel gêm i ‘fechgyn’ yn enghraifft o drais diwylliannol, ac mae trefnu’r maes chwarae o gwmpas pêl-droed yn enghraifft o drais strwythurol. Mae’r trais diwylliannol yn yr enghraifft hon yn gwahanu plentyndod yn ferched a bechgyn ac yn cysylltu hoffterau a phriodoleddau penodol â phob grŵp. Mae hyn yn cysylltu â'r trais strwythurol sy'n trefnu'r gofod corfforol i flaenoriaethu gweithgareddau sy'n gysylltiedig â bod yn fachgen. Mae hyn yn effeithio ar y merched mae eu hanghenion canfyddedig yn cael llai o werth na rhai’r bechgyn, yn ogystal â’r bechgyn nad ydynt yn cydymffurfio â’r stereoteip o fod yn fachgen. Fel yr eglura Standish (uchod), gall trais diwylliannol ei gwneud yn fwy 'derbyniol' i drais uniongyrchol gael ei ddefnyddio yn erbyn grwpiau y credir bod ganddynt lai o werth, yn enwedig pan fyddant yn mynnu eu hanghenion neu'n gwrthod ymddwyn yn ôl y disgwyl. Gallai’r trais hwn ddeillio o fwlio plant nad ydynt yn cydymffurfio â stereoteipiau, gwrthwynebiad y grŵp blaenoriaeth i unrhyw her i’w sefyllfa freintiedig, neu rwystredigaethau’r grŵp yn mynnu eu hanghenion.
Yn y gweithgaredd nesaf byddwch yn adeiladu ar y syniadau hyn, gan ystyried rhagor o enghreifftiau o drais uniongyrchol, diwylliannol a strwythurol.
Gweithgaredd 5 Enghreifftiau o brofiad
Cymerwch funud i fyfyrio ar enghreifftiau pellach o drais diwylliannol, strwythurol ac uniongyrchol. Nodwch eich enghreifftiau ar y diagram isod ac ystyried sut gallai pob math o drais fod yn gysylltiedig ag un arall.
Mae gallu adnabod trais a'i effeithiau yn adnodd beirniadol hanfodol ar gyfer gweithredu myfyriol i feithrin heddwch. Yn yr adran nesaf byddwch yn ystyried y cysyniad o wrthdaro a sut gellir ei gymhwyso mewn addysg heddwch.
Sesiynau DPP
Os ydych chi’n gwneud y gweithgaredd uchod fel grŵp, mae’n bwysig iawn atgoffa cyfranogwyr i adnabod a chydnabod y niwed a’r anghyfiawnder mae trais yn ei achosi yn ei holl ffurfiau, hyd yn oed os nad ydynt wedi profi rhai mathau o drais diwylliannol neu strwythurol eu hunain. Gallech rannu eich grŵp yn grwpiau llai a rhoi cyfle i gyfranogwyr ddewis gyda phwy maent yn gweithio.
Rhowch gyfle i’r cyfranogwyr ddewis a ydynt am roi adborth ai peidio. Fel grŵp, fe allech chi fyfyrio ar syniadau a phrofiadau bywyd mathau o drais. Mae’n bosibl y byddwch chi’n sylwi ar y gwahanol ffyrdd y gallai trais amlygu ei hun mewn gwahanol feysydd o fywyd bob dydd, yn enwedig y cyd-destun mae'r grŵp yn gweithio ynddo.