Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4 Gwrthdaro

Nid yw heddwch o reidrwydd yn golygu diffyg gwrthdaro. Ond mae’n golygu datblygu sgiliau a chymwyseddau o ran rheoli gwrthdaro’n effeithiol er mwyn gweithio tuag at ganlyniadau cadarnhaol.

Gweithgaredd 6 Canfyddiadau plant o wrthdaro

Timing: Caniatewch tua 10 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Gwyliwch y fideo byr hwn o blant o ysgol yng ngorllewin canolbarth Lloegr yn rhoi diffiniadau ac enghreifftiau o wrthdaro. Wrth i chi wylio, ystyriwch:

  • Pa enghreifftiau o wrthdaro mae’r myfyrwyr yn eu rhoi?
  • Pa rôl allai trais ei chwarae ym mhob enghraifft?

Defnyddiwch y blwch isod i gofnodi eich meddyliau.

Download this video clip.Video player: Fideo 2
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Fideo 2
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Trafodaeth

Rhoddodd tri phlentyn enghreifftiau o wrthdaro yn y clip. Siaradodd y cyntaf am wahaniaethau barn ynghylch beth i’w fwyta neu ba gêm i’w chwarae, gan ddangos anghenion neu ddymuniadau sy’n gwrthdaro. Eglurodd yr ail sut gallai gwrthdaro - ac yn yr achos hwn, dadl - waethygu, gan ddod yn fwy nag anghytundeb. Rhoddodd y trydydd plentyn enghraifft o wrthdaro treisgar, pan oedd grŵp mwy pwerus o bobl, pobl ifanc yn eu harddegau yn yr achos hwn, yn bwlio person mwy agored i niwed, sef plentyn ysgol gynradd.

Mae trais yn chwarae’r rhan amlycaf yn y drydedd enghraifft, lle mae trais diwylliannol ac uniongyrchol i’w gweld yn y gwahaniaethau pŵer rhwng pobl hŷn a phobl iau sy’n arwain at fwlio. Mae gan drais y potensial i ddod i’r amlwg yn yr ail enghraifft, lle mae dadl ‘yn gallu troi’n broblem fawr iawn’, fel yr eglura’r unigolyn ifanc. Yn y broblem gyntaf, mae gan y gwrthdaro a ddisgrifir y potensial i arwain at ganlyniadau cadarnhaol. Er enghraifft, mae'n bosibl y bydd un unigolyn yn rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol amser swper ac yn darganfod ei fod yn ei hoffi, neu fe allai'r grŵp o chwaraewyr benderfynu rhoi cynnig ar gêm newydd gyda’i gilydd.

Er bod pob unigolyn ifanc yn y clip yn disgrifio gwrthdaro, does dim rhaid i hyn arwain at ganlyniadau negyddol. Mae gwrthdaro yn rhan o fywyd bob dydd. Gall gwrthdaro sy’n cael ei reoli’n dda fod yn rym creadigol, sy’n galluogi pobl i drafod syniadau nad ydynt o bosibl wedi eu hystyried o’r blaen a rhoi cynnig ar ddulliau newydd o fynd i’r afael â heriau. Un o nodau addysg heddwch yw cynorthwyo plant a phobl ifanc i ddatblygu eu cymwyseddau i reoli gwrthdaro drostynt eu hunain. Gallai hyn gynnwys sgiliau fel rheoli emosiynau (cyn i ddadl ddod yn ‘broblem fawr iawn’), cyfathrebu’n glir a gwrando ar ei gilydd gydag empathi, yn ogystal â gwybod pryd i alw ar drydydd parti am help.