Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5 Cyflwyno Peace at the Heart

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 10 Clawr blaen yr adroddiad Peace at the Heart, a gyhoeddwyd gan y Crynwyr ym Mhrydain

Mae’r adran olaf hon o Sesiwn 1 yn cyflwyno Peace at the Heart [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , sy’n dwyn ynghyd waith addysgwyr, ysgolion a phobl ifanc i ddisgrifio addysg heddwch fel proses o feithrin a chynnal cysylltiadau cadarnhaol ar wahanol lefelau.

Yn yr adroddiad, mae cymhlethdod heddwch yn cael ei gyfleu yn y syniad o haenau sy’n gorgyffwrdd:

  • Llesiant a datblygiad unigol (‘heddwch ynof fi fy hun’)
  • Perthynas gadarnhaol â chyfoedion (‘heddwch rhyngom’)
  • Cymuned ysgol gynhwysol (‘heddwch yn ein plith’)
  • Dinasyddiaeth fyd-eang a datblygu cynaliadwy (‘heddwch yn y byd’)

Wrth i chi weithio drwy weddill y cwrs hwn, byddwch yn archwilio pob un o'r haenau hyn yn fanylach ac yn ystyried sut gallech chi weithio gyda'r model hwn o heddwch yn eich ymarfer. Bydd y gweithgaredd olaf yn y sesiwn hon yn eich helpu i ymgyfarwyddo â’r haenau a dechrau meddwl am sut mae hyn yn berthnasol i’ch cysyniadau personol a phroffesiynol o heddwch.

Gweithgaredd 7

Timing: Caniatewch tua 10 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Archwiliwch y diagram isod, gan ddarllen y diffiniadau o’r gwahanol haenau o heddwch a gymerwyd o Peace at the Heart. Nodwch y pwyslais ar feithrin a chynnal perthynas gadarnhaol, un o negeseuon craidd yr adroddiad.

Wrth i chi archwilio’r diagram, meddyliwch am y canlynol:

  • Ym mha haen allai’r diffiniad o heddwch y meddylioch chi amdano ar ddechrau’r sesiwn ffitio?
  • Sut gallai pob haen o heddwch edrych mewn ystafell ddosbarth neu ysgol?
  • Sut mae’r haenau’n gorgyffwrdd?

Defnyddiwch y blwch ymateb isod i gofnodi eich meddyliau.

Active content not displayed. This content requires JavaScript to be enabled.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Trafodaeth

Efallai eich bod chi wedi canfod bod eich syniadau personol am heddwch yn ffitio i fwy nag un haen. Er enghraifft, mae ‘heddwch ynof fi fy hun’ yn golygu bod plant a phobl ifanc yn archwilio beth sy’n bwysig iddynt a beth sy’n dda ynddynt eu hunain. Mae hyn yn ymwneud â ‘heddwch yn y byd’ – gallai gwybod beth sy’n bwysig i chi fod yn berthnasol i’r ffordd rydych chi’n llywio drwy gymdeithas gymhleth.

O ran sut gallai pob haen edrych mewn ystafell ddosbarth neu ysgol, bydd y sesiynau a ganlyn yn rhoi rhai syniadau i chi. Am y tro, cadwch eich syniadau cychwynnol mewn cof a pharhau i’w datblygu wrth i chi weithio drwy’r deunyddiau.