6 Crynodeb o Sesiwn 1
Yn y sesiwn hon rydych chi wedi edrych ar rai cysyniadau pwysig mae addysgwyr heddwch yn adeiladu arnynt yn eu gwaith. Rydych chi wedi gweld bod heddwch cadarnhaol yn golygu nid yn unig diffyg trais ac ofn, ond presenoldeb rhinweddau fel tegwch a chyfiawnder. Rydych chi wedi cyfeirio at sut bethau yw gwahanol fathau o drais a sut mae’r gallu i’w hadnabod a’u gwrthsefyll yn rhan bwysig o addysg heddwch. Yn ogystal â hyn, rydych chi wedi edrych ar wrthdaro a’i botensial i ddatblygu mewn ffyrdd cadarnhaol a negyddol. Roedd y sesiwn hon hefyd yn sôn am gymwyseddau sy’n galluogi plant a phobl ifanc i reoli gwrthdaro’n effeithiol. Byddwch yn dychwelyd at y themâu a’r syniadau hyn drwy gydol y cwrs hwn.
Mae’r cwrs hwn yn defnyddio model penodol a ddatblygwyd yn yr adroddiad Peace at the Heart, ond dylech gynnal eich safbwynt eich hun ar heddwch yn ogystal â'r rhai rydych chi'n byw ac yn gweithio gyda nhw wrth i chi ystyried datblygu eich ymarfer yng ngoleuni'r deunyddiau hyn.
Gallwch yn awr fynd i Sesiwn 2 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .