Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Sesiwn 2: Heddwch ynof fi fy hun

Cyflwyniad

Mae'r sesiwn hon yn dilyn y model o heddwch y gwnaethoch ddarllen amdano yn Sesiwn 1, gan gyflwyno rhai egwyddorion 'heddwch ynof fi fy hun' sy'n meithrin llesiant a datblygiad unigol. Dyma'r cyntaf o'r pedair haen o heddwch a nodwyd yn Peace at the Heart y gwnaethoch ddarllen amdanynt yn y sesiwn ddiwethaf.

Erbyn diwedd y sesiwn, fe ddylech chi allu:

  • deall meithrin heddwch fel arfer hirdymor o ddatblygu
  • mynegi’r berthynas rhwng llesiant a meithrin heddwch
  • cynllunio i addysgu strategaethau ar gyfer meithrin heddwch drwy lesiant.

Mae cyfoeth o weithgareddau sy'n ymwneud â llesiant mewn ysgolion. Bydd y sesiwn hon yn eich helpu i ddeall sut gallech chi ymgorffori gweithgareddau o'r fath yn eich ymarfer meithrin heddwch.

Gwyliwch y fideo hwn lle mae Sioned yn cyflwyno Sesiwn 2.

Download this video clip.Video player: Fideo 1
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Fideo 1
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).