1 Meithrin llesiant a heddwch
Diffiniodd Johan Galtung, y bu i chi ei gyfarfod yn Sesiwn 1, dri math o waith heddwch: cadw heddwch, gwneud heddwch a meithrin heddwch. I Galtung, mae cadw heddwch yn ymwneud yn bennaf â chadw gwrthweithyddion ar wahân; mae gwneud heddwch yn canolbwyntio ar gael gwared ar ffynhonnell tensiwn; ac mae meithrin hedwch yn ymwneud â chael gwared ar strwythurau cymdeithasol sy'n arwain at drais a rhyfel a chynnig dewisiadau eraill (Galtung, 1976). Cofiwch fod gwahanol fathau o drais, a’i fod yn cynnwys trais hunaniaeth fel hiliaeth a chasineb at fenywod.
Mae'r sesiwn hon yn canolbwyntio ar feithrin heddwch. Mae sefydliad Conciliation Resources yn cynorthwyo pobl sy’n byw mewn ardaloedd o wrthdaro treisgar i ddod o hyd i atebion i’r gwrthdaro hwnnw. Maent yn disgrifio meithrin heddwch fel:
...proses hirdymor o annog pobl i siarad, atgyweirio perthynas ag eraill, a diwygio sefydliadau. Er mwyn i newid cadarnhaol barhau, rhaid i bawb y mae gwrthdaro dinistriol wedi effeithio arnynt fod yn rhan o’r broses o feithrin heddwch.
Yn y diffiniad hwn, mae meithrin heddwch yn rhan o’r gwaith i ddatrys gwrthdaro a rheoli effeithiau trais. Fodd bynnag, gall meithrin heddwch hefyd olygu gwaith i atal gwrthdaro rhag troi’n dreisgar yn y lle cyntaf. Yng nghyd-destun addysg heddwch, mae Cremin a Bevington yn disgrifio meithrin heddwch fel ‘...y dimensiwn ataliol sy’n edrych tua’r dyfodol...’ o heddwch (Cremine a Bevington, 2017, t. 103). Mae’r syniad hwn o feithrin heddwch yn canolbwyntio ar atal gwrthdaro rhag troi’n dreisgar ac yn ddinistriol yn hytrach nag adfer heddwch pan fydd gwrthdaro treisgar eisoes wedi digwydd. Mae'r awduron hyn yn esbonio bod meithrin heddwch '...yn gofyn am ddychmygu sut gallai pethau fod a gweithio tuag at y weledigaeth honno...' (ibid). Ar gyfer y math hwn o feithrin heddwch, mae Cremin a Bevington yn dadlau bod llesiant yn hanfodol. Mae llesiant hefyd yn rhan bwysig o ‘heddwch ynof fi fy hun’ – adran yn Peace at the Heart.