1.1 Beth mae llesiant yn ei olygu?
Mae gofal a sylw i lesiant pawb yn hanfodol ar gyfer datblygu’r haen gyntaf o heddwch – ‘heddwch ynof fi fy hun’ – a amlinellir yn Peace at the Heart. Mae'r adran hon yn parhau i ddilyn gwaith Cremin a Bevington (2017) i archwilio beth mae llesiant yn ei olygu yng nghyd-destun meithrin heddwch.
Gweithgaredd 1 Beth mae llesiant yn ei olygu?
Darllenwch ddisgrifiadau Cremin a Bevington o wahanol agweddau ar lesiant yn y blwch isod (Cremin a Bevington, 2017, tt. 111–12). Cliciwch ar un o'r opsiynau isod i gyfateb i'r agwedd ar lesiant y maent yn ei disgrifio.
Ar ôl i chi adolygu'r diffiniadau, myfyriwch ar yr hyn y gallai fod ei angen arnoch i ategu pob un o'r agweddau hyn ar eich llesiant eich hun. Cofnodwch eich syniadau yn y tabl isod. Mae’n bosibl yr hoffech ddod yn ôl at y rhain yn Sesiwn 6.
| Llesiant emosiynol | |
| Llesiant seicolegol | |
| Llesiant cymdeithasol | |
| Llesiant ysbrydol |
Sylwad
Fel y gwelwch, mae llesiant yn derm cymharol gymhleth, sy’n ymwneud â’r personol, rhyngbersonol ac ysbrydol. Mae'r sesiwn hon yn canolbwyntio ar lesiant emosiynol, seicolegol a chymdeithasol.
Yn ogystal â helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu heddwch ynof fi fy hun, mae rhoi sylw i lesiant a gofalu amdano yn ased allweddol yn niwylliant ac amgylchedd cymuned addysgol. Mae Peace at the Heart yn egluro manteision datblygu amgylchedd addysgol lle mae ‘…myfyrwyr yn credu bod oedolion yn yr ysgol yn poeni am eu haddysg ac amdanynt fel unigolion.’ Mae'n defnyddio gwaith ymchwil i ddisgrifio sut mae ysgolion o'r fath ‘… wedi gweld manteision o ran boddhad myfyrwyr a datblygiad personol, llai o drais a gwaharddiadau, a graddau uwch’ (Peace at the Heart, t. 15). Gellir datblygu gofal sylwgar i lesiant mewn unrhyw agwedd ar y gymuned addysgol a phob agwedd arni. Mae gwreiddio gofal o’r fath o fudd i bawb.
Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar lesiant yng nghyd-destun meithrin cysylltiadau cadarnhaol a rheoli gwrthdaro. Fodd bynnag, mae llawer o wahanol wasanaethau a dulliau o gefnogi iechyd meddwl pob aelod o gymunedau ysgolion. Er enghraifft, ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn (2024), mae llywodraethau’r Deyrnas Unedig wedi bod yn buddsoddi adnoddau mewn archwilio a datblygu arferion sy'n ystyriol o drawma. Mae’r dull hwn yn seiliedig ar egwyddorion allweddol: diogelwch, ymddiriedaeth, dewis, cydweithio, grymuso ac ystyriaeth ddiwylliannol (Y Swyddfa Gwella Iechyd a Gwahaniaethau, 2022). Mae’n bosibl y bydd ysgolion hefyd yn dymuno archwilio adnoddau addysgol a gofal iechyd sy’n gysylltiedig â gweithio gyda phlant sydd â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.