Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Beth sy’n dda ynof fi – Datganiadau cadarnhau

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 1 Plant yn mwynhau eu pecyn bwyd

Mae Learning for Peace gan West Midlands Peacemakers yn esbonio mai rhan o ddatblygu heddwch mewnol (heddwch ynof fi fy hun) yw dysgu gwneud datganiadau cadarnhau am eraill a derbyn datganiadau o’r fath eu hunain’ (Zammit a Hagel, 2016, t. 44). Mae datganiadau cadarnhau yn helpu pobl i weld beth sy’n dda ynddynt eu hunain, rhywbeth sy’n bwysig i bob aelod o gymuned yr ysgol. Yn y sesiwn hon byddwch yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc, ond byddwch yn dychwelyd at lesiant addysgwyr yn Sesiwn 6.

Mae dysgu rhoi a derbyn datganiadau cadarnhau yn fwyaf effeithiol os yw’n weithgaredd rheolaidd yn yr ystafell ddosbarth, gan ei fod yn cymryd amser ac ymarfer i ddatblygu’r sgiliau hyn.

Gweithgaredd 2 Ymgadarnhau

Timing: Caniatewch tua 15 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Yma byddwch yn defnyddio'r gweithgaredd It’s good to be me gan West Midlands Peacemakers fel man cychwyn ar gyfer gweithio ar ddatganiadau cadarnhau. Darllenwch y gweithgaredd ac yna meddyliwch am sut gallech ei addasu ar gyfer y cyd-destun rydych chi'n gweithio ynddo, gan gofio y gall gymryd amser ac amynedd i ddatblygu i'r pwynt lle gallwch chi a'ch dosbarth roi a derbyn datganiadau cadarnhau yn hyderus.

Sylwch fod y gweithgaredd wedi ei fwriadu i gael ei wneud gyda’r grŵp yn eistedd mewn cylch ac mae ‘darn siarad’ yn eitem mae cyfranogwr yn ei dal sy’n dangos mai dyma ei amser i siarad. Gallwch ddefnyddio’r blwch ymateb isod i nodi eich syniadau. Os ydych chi wedi mewngofnodi i OpenLearn, bydd eich syniadau’n cael eu cadw fel bod modd dychwelyd atynt yn nes ymlaen.

Gweithgaredd:

Mae’n dda bod yn fi

Nod:I blant allu ymgadarnhau

Sgiliau:Gwrando, rhoi datganiadau cadarnhau, cyfathrebu, hunanymwybyddiaeth, edrych

Oedran:5-11 a thu hwnt

Dangoswch hyn drwy fynd yn gyntaf. Gan ddal y ‘darn siarad’, dywedwch ‘mae’n dda bod yn fi oherwydd... ’ a gorffen y frawddeg gyda rhywbeth rydych chi’n falch ohono, neu rywbeth rydych chi wedi ei gyflawni. Er enghraifft:

‘Mae’n dda bod yn fi fy hun oherwydd rydw i’n dysgu sut i bobi cacennau.’

Yna byddwch yn pasio’r bêl i blentyn wrth eich ymyl. Mae'r plentyn wedyn yn ailadrodd yr hyn mae'r oedolyn wedi ei ddweud:

‘Mae’n dda bod yn chi eich hun oherwydd rydych chi’n dysgu sut i bobi cacennau.’

Ac yn ychwanegu ei ddatganiad cadarnhau ei hun:

‘Ac mae’n dda bod yn fi fy hun oherwydd rydw i’n dda am wneud tasgau llythrennedd.’

Yna, bydd y bêl yn cael ei phasio o gwmpas y cylch gyda phobl yn ailadrodd yr hyn a ddywedodd yr un o’u blaenau ac yn ychwanegu eu brawddeg eu hunain.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Trafodaeth

Mae Peacemakers yn awgrymu dechrau’r gweithgaredd hwn gyda grŵp bach yn gweithio gydag oedolyn yn hytrach na’r dosbarth cyfan. Pan fydd y plant yn dechrau magu hyder i siarad yn gadarnhaol amdanynt eu hunain ac am eraill, gallai’r grwpiau bach hyn ymuno â grwpiau eraill nes bydd y dosbarth cyfan yn teimlo’n gyfforddus yn siarad gyda’i gilydd. Mewn ystafell ddosbarth amlieithog, gallech annog plant i fynegi eu syniadau mewn gwahanol ieithoedd, gan gynnig cyfieithiad i'r plentyn neu'r grŵp nesaf.

Gallech hefyd ystyried rhoi cardiau i blant gyda brawddeg gychwynnol a fydd yn eu helpu i fynegi eu meddyliau. Er enghraifft, gallech ddefnyddio ‘Mae’n dda bod yn fi’ fel ffordd o ddechrau brawddeg neu weithio ar ddewis arall gyda’r grŵp i ddod o hyd i rywbeth mae pawb yn gyfforddus yn ei ddefnyddio.

Pa bynnag addasiad fyddwch chi’n ei wneud, mae'n bwysig cadw golwg ar yr addysg a chynorthwyo plant i ddatblygu eu gallu i roi a derbyn datganiadau cadarnhad, yn ogystal â gweld y da ynddynt eu hunain.