2.1 Rhoi datganiadau cadarnhaol i bobl eraill
Mae gallu rhoi datganiadau cadarnhaol amdanoch chi eich hun yn bwysig i hunan-barch plant a phobl ifanc. Rhan o lesiant cymdeithasol yw gallu rhoi datganiadau cadarnhau am bobl eraill, er mwyn sefydlu a chynnal perthynas gadarnhaol a chefnogol ag eraill.
Isod ceir delweddau o ‘Gardiau Codi Calon’, a ddefnyddir mewn enghraifft o weithgaredd ar gyfer plant iau o Becyn Wythnos Heddwch y Crynwyr ym Mhrydain. Mae’r gweithgaredd hwn yn gweithio’n dda gyda phlant iau.
Mae’r cerdyn ar y dde yn dangos y bwriad dysgu. Mewn gweithgaredd fel hwn, bydd y plant yn gweithio mewn parau i greu cerdyn ar gyfer plentyn arall y gallant ei ddefnyddio fel ffordd o ‘godi calon’ pryd bynnag y bydd ei angen arnynt.
Gall datblygu sgiliau i roi datganiadau cadarnhau amdanoch chi eich hun ac eraill fod yn fwy heriol i bobl ifanc o oedran ysgol uwchradd. Mae'r ddelwedd isod yn sgrinlun o fideo o fyfyrwyr yn Ysgol Elizabeth Garrett y byddwch yn ei wylio'n llawn yn Sesiwn 5. Yn y gweithgaredd hwn, bydd y myfyrwyr yn archwilio’r agweddau niferus ar eu hunaniaeth mewn ffyrdd sy’n creu cyfleoedd ar gyfer datganiadau cadarnhau ar gyfer eu hunain ac eraill. Fel y gwelwch pan fyddwch chi’n gwylio'r fideo llawn yn Sesiwn 5, cafodd y sesiwn ei chynllunio'n ofalus gyda'r athro'n modelu ei disgwyliadau i'r myfyrwyr yn gyntaf. Mae hefyd yn bwysig bod Ysgol Elizabeth Garrett yn hyrwyddo ac yn cynnal cysylltiadau cadarnhaol yng nghyd-destun eu gwaith i fod yn ysgol sy’n amlwg yn wrth-hiliol.
Dylai gweithgareddau sy’n gofyn i blant a phobl ifanc rannu gwybodaeth bersonol, fel eu hymdeimlad o’u hunaniaeth, eu teimladau neu eu hamgylchiadau teuluol gael eu cynnal mewn mannau diogel sy’n cael eu rheoli’n ofalus lle mae’r holl gyfranogwyr wedi cytuno ar reolau sylfaenol o ran parch a chyfrinachedd. Ni ddylid disgwyl i neb rannu unrhyw agwedd ar eu hunaniaeth maent yn dymuno ei chadw’n breifat, a dylid cefnogi plant a phobl ifanc i wneud penderfyniadau gofalus ynghylch faint maent yn dymuno cymryd rhan. Yma, mae gwaith cyson, amyneddgar a gofalus i feithrin perthynas gref a llawn ymddiriedaeth rhwng pob aelod o gymunedau addysgol yn hanfodol.
Mae addysgwyr yn aml yn rhoi datganiadau cadarnhaol i blant a phobl ifanc, ond gall oedolion yn yr ysgol fodelu’r sgil o roi datganiadau cadarnhaol i eraill hefyd, gan ddiolch i’w gilydd a dangos gwerthfawrogiad o waith cydweithwyr. Gall y gweithredoedd arferol hyn helpu i feithrin yr ethos cadarnhaol hwnnw o lesiant cymdeithasol lle mae rhoi datganiadau cadarnhaol i chi eich hun ac eraill yn rhan o ymarfer bob dydd cymuned yr ysgol.

