Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3 Rheoli fy hun mewn sefyllfaoedd anodd

Mae rhan olaf y sesiwn hon yn rhoi cyflwyniad i ymchwil i wyddoniaeth emosiynau dynol. Gall gwybodaeth o’r fath ein helpu i ddeall beth sy’n digwydd pan fyddwn yn profi teimladau cryf, gan gynyddu ein gallu i reoli sefyllfaoedd anodd. Fodd bynnag, dylech gofio bod yr ymennydd yn strwythur hynod gymhleth, a bod bioleg a phrofiad pawb yn wahanol. Dylai strategaethau ar gyfer helpu plant i reoli eu hemosiynau fod yn ymwybodol o’r amrywiaeth honno a gweithio gyda phwy yw plant a phobl ifanc, yn hytrach na syniadau o’r hyn y ‘dylent’ fod.

Gweithgaredd 3 Cyflwyniad i emosiynau a’r ymennydd dynol

Timing: Caniatewch tua 20 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Gwyliwch y fideo hwn, Welcome to the brain’s amazing drugs cabinet gan y Centre for Conflict Resolution, sy’n elusen yn yr Alban.

Wrth i chi wylio, meddyliwch am y canlynol:

  • Sut gallai deall emosiynau helpu’r plant a’r bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw?
  • Pam ei bod yn bwysig gallu ‘sefyll yn esgidiau rhywun arall’?
Download this video clip.Video player: Fideo 2
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Fideo 2
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwad

Gall addysgu plant a phobl ifanc i ddeall a rheoli eu hemosiynau gynorthwyo eu hymatebion datblygiadol i wrthdaro, gan eu helpu i ddod o hyd i ffyrdd o greu canlyniadau cyfiawn a chadarnhaol. Maent yn gallu dysgu deall beth sy’n digwydd iddynt mewn sefyllfaoedd sy’n cynnwys emosiynau pwerus fel dicter. Mae ‘rhoi eich hunan yn esgidiau rhywun arall’ yn drosiad ar gyfer gallu deall ymatebion ac anghenion pobl eraill yn ogystal â’u hanghenion eu hunain – rhan sylfaenol o feithrin cysylltiadau cadarnhaol.

Yn y gweithgaredd nesaf, byddwch yn cynllunio sesiwn i gynorthwyo plant a phobl ifanc i archwilio eu hemosiynau.

Gweithgaredd 4 Cydnabod eich teimladau eich hun a theimladau pobl eraill

Timing: Caniatewch tua 20 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Yn awr byddwch yn cynllunio cyfres o weithgareddau ar gyfer sesiwn ar deimladau gyda’r plant a’r bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw.

Rhan 1 Datblygu geirfa i siarad am deimladau

Mae’r gweithgaredd map teimladau isod yn weithgaredd cychwynnol a awgrymir ar gyfer helpu grŵp i ddatblygu geirfa ar gyfer siarad am deimladau. Cylch (neu siâp arall) wedi ei rannu’n bedwar chwarter yw’r ‘map’. Mae pob chwarter wedi ei labelu â chategori o deimladau, yn yr achos hwn ‘Hapus’, ‘Ofnus’, ‘Blin’ a ‘Trist’. Mae gan gyfranogwyr set o gardiau gyda theimladau gwahanol arnynt a gofynnir iddynt ddidoli’r cardiau i’r categori teimladau maent yn cytuno ei fod yn fwyaf priodol. Mae’n bwysig bod y broses hon yn rhoi digon o amser i archwilio a thrafod.

Dechreuwch drwy roi cynnig ar y gweithgaredd eich hun yn y rhan rhyngweithiol isod, drwy symud y cardiau o gwmpas i’r categorïau rydych chi’n meddwl maent yn perthyn iddynt. Yna defnyddiwch y blwch ymateb isod i ystyried sut gallech chi ei addasu i’w ddefnyddio gyda’ch dosbarth neu eich grŵp.

Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Trafodaeth

Fe sylwch chi nad oes atebion cywir nac anghywir ar gyfer y gweithgaredd hwn. Y rheswm am hyn yw mai’r nod yw meddwl – naill ai ar eich pen eich hun neu gydag eraill (os ydych chi’n cwblhau’r cwrs gyda grŵp) – am sut mae emosiynau’n teimlo i chi, a sut gallai hyn fod yr un fath neu’n wahanol i bobl eraill. Er enghraifft, gall bod yn ddig fod yn gyffrous i rai pobl a pheri gofid i eraill. Gall gweithgaredd fel ‘Cardiau Post Teimladau’ isod helpu i ddatblygu’r trafodaethau hyn wrth weithio gyda grŵp.

Rhan 2 Cydnabod a disgrifio teimladau

Yn awr, darllenwch y ddau amlinelliad a ganlyn o weithgareddau ar gyfer disgrifio a chydnabod teimladau. Sut gallech chi eu haddasu ar gyfer eich dosbarth neu eich grŵp eich hun?

Cardiau post teimladau – disgrifio eich teimladau eich hun

Ychwanegwch at eich map teimladau drwy roi darn bach o gerdyn i bob cyfranogwr. Gallant ddewis teimlad o’r map a’i ddarlunio sut bynnag y dymunant. Efallai y byddant yn defnyddio geiriau i’w ddisgrifio, yn tynnu llun neu’n chwilio am ddelweddau ar y rhyngrwyd. Gallai’r cyfranogwyr drafod yr hyn sy’n debyg ac yn wahanol rhwng y cardiau post i feddwl am eu profiadau eu hunain a phrofiadau pobl eraill o bob teimlad.

Ditectif teimladau – cydnabod teimladau pobl eraill

Mae dwy set o gardiau teimladau yn y gweithgaredd hwn. Dewiswch 1 i 4 aelod o’r grŵp i fod yn dditectifs teimladau. Rhowch un set o’r cardiau teimladau i’r ‘ditectifs’.

Rhowch gerdyn teimladau i bob un o’r chwaraewyr eraill. Mae pob un o’r chwaraewyr hyn wedyn yn actio’r teimlad ar eu cerdyn. Mae’r ditectifs wedyn yn rhoi eu cardiau teimladau wrth ymyl yr un maent yn meddwl ei fod yn dangos y teimlad hwnnw. Cofiwch, mae llefydd lle mae actor a ditectif yn anghytuno yn cynnig cyfleoedd i drafod y gwahanol ffyrdd y gallai pobl fynegi eu hemosiynau.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Trafodaeth

Dylai unrhyw weithgaredd roi digon o amser i blant a phobl ifanc drafod eu teimladau, gan feddwl am eu hymatebion meddyliol a chorfforol a sut gallai eu teimladau fod yn berthnasol i’w hymddygiad. Yn ogystal â gallu mynegi eu teimladau eu hunain, bydd angen i blant wrando’n ofalus er mwyn deall profiadau pobl eraill.

Sesiynau DPP

Os ydych chi’n gwneud y gweithgaredd gyda grŵp, gallech greu eich map teimladau ar y llawr yng nghanol cylch. Gallech ddefnyddio cardiau wedi eu paratoi ymlaen llaw neu ofyn i’r cyfranogwyr ysgrifennu emosiwn maent wedi ei brofi’n ddiweddar ar ddarn o gerdyn a’i ddidoli i’r cylch.

Yn Sesiwn 3 y cwrs hwn, byddwch yn edrych yn fanylach ar egwyddorion gweithio mewn cylchoedd ac mae’n bosibl yr hoffech ddychwelyd at eich syniadau ar ôl hynny. Cofiwch, os ydych chi wedi mewngofnodi i OpenLearn, bydd eich ymatebion yn cael eu cadw fel nodiadau er mwyn i chi allu dychwelyd atynt yn ddiweddarach i’w datblygu ymhellach.