3.2 Cydnabod anghenion
Wrth wraidd y rhan fwyaf o wrthdaro mae anghenion heb eu diwallu (Cartwright, 2019). Mae gallu rheoli eich emosiynau mewn sefyllfaoedd heriol o wrthdaro yn gallu cynorthwyo’r gwaith ymarferol o reoli gwrthdaro, ond mae meithrin heddwch yn y tymor hwy yn golygu mwy na hyn. Er enghraifft, gall rheoli’r emosiynau cryf a’r trallod a achosir gan fwlio helpu’r rhai yr effeithir arnynt i ymdopi â’r sefyllfa maent ynddi, ond ni ddylai hyn dynnu oddi ar waith i sicrhau yr eir i’r afael â bwlio a bod cymunedau addysgol yn diwallu angen pob aelod i deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi. Mae gweithio gydag ymdeimlad cryfach o anghenion sy’n cael eu teimlo’n ddwfn yn cysylltu heddwch a llesiant unigolion â’r gymuned ehangach, gan y gall helpu pobl i sylwi ar wrthdaro a mynd at wraidd y mater.
Mae datrys gwrthdaro yn y tymor hir yn golygu tynnu haenau’n ôl er mwyn dod i ddeall yr anghenion nad ydynt yn cael eu diwallu sy’n effeithio’n fawr ar lesiant y rhai sy’n rhan o’r gwrthdaro. Datblygwyd Ffigur 4 gan Addysg Heddwch y Crynwyr. Mae’n defnyddio trosiad haenau nionyn i helpu unigolion i feddwl drwy haenau gwrthdaro i gyrraedd yr anghenion heb eu diwallu sy’n gallu bodoli wrth wraidd y mater.
Mae’r addysgwr heddwch Isabel Cartwright yn defnyddio’r trosiad hwn i gynnig enghraifft o sut gall angen heb ei ddiwallu fod wrth wraidd gwrthdaro:
…dechreuodd y ddadl pan wthiais ei gwaith oddi ar y ddesg’ (GWEITHRED); ‘Roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n haeddu hynny’ (MEDDWL); ‘Roeddwn i’n teimlo wedi fy mrifo ac yn ddig ei bod hi wedi chwerthin ar fy syniadau’ (TEIMLO); ‘Roeddwn i angen i rywun wrando arnaf’ (ANGEN).
Gall anghenion fod yn unrhyw beth o’r awydd am degwch a chydraddoldeb a drafodwyd yn Sesiwn 1 y cwrs hwn, i ymarferoldeb bwyd, dŵr a lloches, neu’r angen am hunangyflawniad, cydnabyddiaeth a chariad. Er mwyn i gymunedau ysgol feithrin cysylltiadau heddychlon cryf, gall pob aelod ddysgu deall eu hanghenion eu hunain ac anghenion pobl eraill, gan eu galluogi i gynnal eu llesiant a meithrin heddwch yn eu cymuned.
