4 Crynodeb o Sesiwn 2
Cyflwynodd y sesiwn hon y cysyniad o feithrin heddwch a'r rhan y gall rhoi sylw i lesiant ei chwarae yn yr haen gyntaf o heddwch – heddwch ynof fi fy hun. Gall plant a phobl ifanc ymarfer gwahanol strategaethau i’w helpu i ddod o hyd i ffyrdd o reoli eu hemosiynau a rheoli sefyllfaoedd anodd. Dylai aelodau o gymunedau ysgolion gymryd amser i gydnabod yr anghenion dyfnach o fewn pob unigolyn a gweithio i feithrin cysylltiadau lle gellid diwallu’r anghenion hyn. Yn Sesiynau 3 a 4 byddwch yn edrych yn fanylach ar adeiladu cymunedau addysgol cryf.
Gallwch yn awr fynd i Sesiwn 3 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .