Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Gweithio mewn cylchoedd

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 1 Esboniad o gylch gan Peacemakers

Mae amser cylch yn dechneg addysgeg sefydledig sydd â llawer o fanteision mewn amrywiaeth o feysydd addysg. Gall gweithio mewn cylch leihau hierarchaethau rhwng myfyrwyr ac addysgwyr, cynorthwyo plant i feddwl am broblemau a materion gyda'i gilydd a helpu i gynnal perthynas gadarnhaol ar y cyd, sydd i gyd yn gallu helpu i adeiladu ymarfer heddychlon mewn lleoliadau addysgol. Mae canlyniadau cadarnhaol o’r fath yn dibynnu ar waith amyneddgar, gofalus a myfyriol yn yr ystafell ddosbarth.

Gweithgaredd 1 Manteision amser cylch

Timing: Caniatewch tua 10 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Gwyliwch y fideo drwy’r ddolen isod ar amser cylch o safon gan Ysgol Gynradd Gymunedol Watercliffe Meadow.

Download this video clip.Video player: Fideo 2
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Fideo 2
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Defnyddiwch y blwch isod i nodi manteision mwy cyffredinol grwpiau’n gweithio mewn cylchoedd. A oes unrhyw rai sy’n ymwneud yn benodol â meithrin heddwch?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Trafodaeth

Mae Cremin a Bevington yn egluro y gellir defnyddio cylchoedd ar gyfer gweithgareddau sy’n meithrin cynhwysiant, dinasyddiaeth a llesiant, gan fynd ymlaen i ddweud bod amser cylch:

...yn canolbwyntio ar siarad, gwrando ac agweddau cymdeithasol ac emosiynol ar ddysgu. Mae dwy reol sylfaenol ar gyfer y cylch: un ar y tro yn siarad: a pharch cyfartal at bob cyfraniad.

(Cremin a Bevington, 2017, t. 105)

Mae’r agweddau hyn ar amser cylch yn ei wneud yn arf defnyddiol ar gyfer meithrin heddwch.

Mae’n hanfodol bod pob aelod o’r gymuned yn teimlo’n ddiogel ac yn perthyn i’r cylch, ac mae pawb yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni hyn. Mae hyn yn golygu bod cyfranogwyr yn dysgu gwerthfawrogi amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu ac yn datblygu strategaethau i ymgysylltu â'r rhai y gallai eu dulliau cyfathrebu fod yn wahanol i'w dulliau eu hunain. Mae hefyd yn golygu rhoi sylw gofalus i hygyrchedd y sesiynau. Er enghraifft, os yw aelod o’r grŵp yn ei chael yn anodd eistedd ar y llawr, dylai pawb sy’n cymryd rhan eistedd ar gadeiriau. Os yw lleisiau penodol yn cael eu clywed yn rhy aml yn y sesiynau cylch (gan gynnwys lleisiau'r addysgwr) ac yn lleihau mynediad i rai cyfranogwyr, mae'r anghydraddoldebau sy'n deillio o hyn yn golygu na all meithrin heddwch ddigwydd.