Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Agweddau at wrthdaro

Mae datblygu ‘heddwch rhyngom’ yn golygu datblygu gallu plant a phobl ifanc i reoli sefyllfaoedd gwrthdaro, ‘…gan ddatblygu eu hunanymwybyddiaeth emosiynol a’u rheoleiddio, eu sgiliau cymdeithasol, a’u hatebolrwydd gerbron eraill’ (Peace at the Heart, 2022, t. 4).

Gallai rheoli gwrthdaro pan fydd yn codi gael ei ystyried fel gwneud heddwch yn hytrach na meithrin heddwch, y bu i chi ganolbwyntio arno yn Sesiwn 2. Er bod meithrin heddwch yn rhywbeth hirdymor ac ataliol, mae gwneud heddwch yn adweithiol ac yn cynnwys datblygu sgiliau i reoli gwrthdaro yn ddi-drais ac yn adeiladol pan fydd yn anochel yn codi (Cremin a Bevington, 2017). Felly, gall datblygu cymwyseddau’n llwyddiannus wrth reoli gwrthdaro ddibynnu ar y gallu i reoli emosiynau a chydnabod teimladau cryf ac anghenion a deimlir yn fawr gennych chi eich hun ac eraill, a oedd yn bynciau y buoch yn darllen amdanynt yn Sesiwn 2.

Mae adnodd Achub y Plant, Conflict Management and Peace Building in Everyday Life (Giertsen ac O’Kane, 2015) yn cynnig sesiynau ar gyfer deall a rheoli gwrthdaro. Mae hyn yn golygu dod yn ymwybodol o’r dull y mae rhywun yn ei ffafrio i ddelio â gwrthdaro, yn ogystal â dulliau gwahanol y gellid eu mabwysiadu.

Mae'r gweithgareddau a ganlyn wedi eu haddasu o'r sesiwn Conflict Styles o Conflict Management and Peace Building in Everyday Life.

Sesiynau DPP

Mae hyn yn brif weithgaredd da ar gyfer sesiwn cylch. Paratowch gardiau gyda lluniau anifeiliaid, ymddygiadau ac arddulliau gwrthdaro (gweler isod). Fe allech chi hefyd ddefnyddio teganau meddal. Mae cyfranogwyr yn dechrau drwy weithio i gyfateb y cardiau i greu diffiniad o'r arddull gwrthdaro. Gallant wedyn drafod manteision a chyfyngiadau pob arddull gwrthdaro mewn parau, cyn rhoi adborth i’r grŵp wrth i’r hwylusydd nodi eu syniadau ar ddarnau eraill o gerdyn.

Canlyniad y sesiwn fyddai tabl mawr o’r arddulliau gwrthdaro yng nghanol y cylch y gellir tynnu lluniau ohonynt a’u defnyddio fel adnodd i ddatblygu’r drafodaeth ymhellach.

Gweithgaredd 3 Cyfateb arddulliau gwrthdaro

Timing: Caniatewch tua 10 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Gall y gweithgaredd hwn, ac amrywiadau ohono, helpu plant a phobl ifanc (ac oedolion) i feddwl am wahanol ffyrdd o reoli gwrthdaro. Gall defnyddio anifeiliaid i gynrychioli mathau o wrthdaro helpu pobl i gofio beth mae pob un yn ei olygu. Mae’n bosibl y bydd ffyrdd eraill o gynrychioli’r arddulliau’n fwy defnyddiol yn eich cyd-destun. Dylai’r ffocws fod ar wella dealltwriaeth cyfranogwyr o’r ffyrdd y gellid rheoli gwrthdaro’n ddi-drais.

Rhan 1 Cydnabod gwahanol arddulliau gwrthdaro

Dechreuwch drwy ddewis arddull ac ymddygiad gwrthdaro pob un o’r anifeiliaid isod (gwnewch yn siŵr eich chi’n clicio ar ‘check’ cyn symud ymlaen i’r sgrin nesaf). Mae gan rai sgriniau fwy nag un ateb cywir.

Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwad

Cofiwch mai gallu nodi’r arddull sydd orau gennych chi ddylai fod y cam cyntaf tuag at archwilio amrywiaeth o ddulliau a allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer gwrthdaro. Mae’n bwysig osgoi rhoi gwerthoedd ar yr arddulliau. Yn hytrach, ceisiwch feddwl amdanynt fel dulliau y gellid eu defnyddio yn dibynnu ar y sefyllfa. Er enghraifft, mae llawer o bobl yn cael eu magu i gredu bod gwrthdaro yn ymosodol, ond os caiff ei reoli gan roi sylw gofalus i’w hymatebion a’u hawliau eu hunain ac ymatebion a hawliau pobl eraill, gall arwain at ateb cyflym i wrthdaro.

Rhan 2 Y math o wrthdaro sydd orau gennych chi

Yn awr, darllenwch y diffiniadau o bob ymddygiad ac arddull gwrthdaro. Pa arddull gwrthdaro sydd orau gennych chi? Teipiwch eich meddyliau yn y blwch isod.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 3 Segment math o wrthdaro a gynrychiolir gan anifeiliaid, wedi ei addasu o adnodd Achub y Plant
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Trafodaeth

Gyda gweithgaredd fel hwn gallech archwilio gwahanol ddulliau, ac o bosibl chwarae rôl mewn gwahanol arddulliau gwrthdaro i arbrofi gyda ffyrdd o reoli'r gwrthdaro.

Rhan 3 Manteision a chyfyngiadau

Gan eich bod chi wedi darllen drwy ddiffiniadau pob arddull dysgu, a'r ymddygiadau sy'n gysylltiedig â nhw, beth allai'r manteision a'r cyfyngiadau fod i bob arddull? Fyddech chi’n defnyddio’r un arddull ym mhob sefyllfa o wrthdaro?

Anifail Arddull gwrthdaro Buddion Cyfyngiadau

Crwban môr

Osgoi

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.

Siarc

Wynebu sefyllfaoedd

Camelion

Cymodi

Sebra

Cyfaddawdu

Tylluan

Datrys Problemau

Geiriau: 0
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwad

Dyma rai manteision a chyfyngiadau a awgrymir ar gyfer y pum arddull gwrthdaro: crwban môr, siarc, camelion, sebra a thylluan. Efallai eich bod wedi meddwl am bobl eraill.

Anifail Buddion Cyfyngiadau

Crwban môr

*Pan fydd wynebu rhywun yn ymddangos yn beryglus

*Pan fydd angen mwy o amser arnoch i baratoi

*Mae’n bosibl na fydd y broblem yn cael ei datrys

*Gall emosiynau ffrwydro yn nes ymlaen

Siarc

*Pan fydd angen gweithredu ar unwaith

*Pan fyddwch chi’n credu yng nghywirdeb llwyr eich gweithredoedd a ddim yn gweld unrhyw ddewis arall

*Gall yr arddull hon wneud pobl yn amddiffynnol a gall wneud gwrthdaro'n waeth

*Gall yr arddull hon ei gwneud yn anodd i eraill fynegi sut maent yn teimlo

Camelion

*Pan fyddwch chi’n meddwl eich bod chi wedi gwneud camgymeriad neu nad ydych chi wir yn deall y sefyllfa

*Pan mae peidio â chynhyrfu'r dyfroedd yn bwysig o ran cadw perthynas

*Efallai y byddwch chi’n gweithio’n galed i blesio eraill ond ni fyddwch byth yn hapus eich hunan

*Nid yw bod yn glên yn datrys y broblem bob amser

Sebra

*Pan fydd angen penderfyniad cyflym arnoch ar fater bach

*Pan nad oes dim arall yn gweithio

*Gallwch ddatrys y gwrthdaro uniongyrchol ond nid y broblem fwy

*Mae’n bosibl na fydd pob un yn hapus yn y pen draw

Tylluan

*Gallu gwneud i rywun sy’n ystyfnig symud tuag at ddatrys problem

*Mae hyn yn gofyn am amser a sgiliau cyfathrebu da

Rhan 4

Yn awr, ystyriwch y senario canlynol. Pa ddull o wrthdaro fyddai'n eich helpu i ddod o hyd i ateb heddychlon?

Senario

Pan fydd hi’n amser clirio ar ôl gweithgaredd, mae rhai pobl yn gweithio’n galed i helpu tra bo eraill yn treulio amser yn siarad â ffrindiau ac yn mwynhau rhywfaint o ‘amser rhydd’. Mae hyn yn achosi drwgdeimlad ymysg y cynorthwywyr.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Trafodaeth

Mae’n bosibl y byddwch chi'n dymuno ailadrodd y gweithgaredd hwn, gan ddewis arddull gwrthdaro arall a meddwl sut gallai hynny weithio yn y sefyllfa. Os ydych chi’n gwneud y gweithgaredd gyda grŵp, mae’n bosibl y byddwch chi’n archwilio gwahanol ddulliau, o bosibl drwy chwarae rôl gwahanol arddulliau gwrthdaro i arbrofi gyda ffyrdd o reoli’r gwrthdaro.

Mae’r gweithgaredd hwn yn seiliedig ar adnodd gan Achub y Plant [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Mae gwahanol sefydliadau'n dysgu arddulliau gwrthdaro gan ddefnyddio gwahanol anifeiliaid, felly mae’n bosibl y gwelwch chi fersiynau eraill mewn mannau eraill, neu mae’n bosibl y byddwch chi’n dymuno dyfeisio rhywbeth a fyddai'n gweithio'n dda yn eich cyd-destun. Y prif beth yw meddwl am yr amrywiaeth o ffyrdd y gallai pobl ymateb i wrthdaro, ac ystyried sut gallai gwahanol ddulliau weithio mewn gwahanol gyd-destunau.

Sesiynau DPP

Os ydych chi’n gwneud y gweithgaredd hwn gyda grŵp, gallech baratoi amrywiaeth o senarios iddynt eu trafod, naill ai mewn parau neu mewn grwpiau llai, cyn dod yn ôl i’r cylch i drafod eu meddyliau.