3 Cymwyseddau empathi a heddwch
Yn yr adran hon, byddwch yn ystyried beth yw empathi a sut mae’n cael ei ddefnyddio mewn addysg heddwch. Dyma’r man cychwyn ar gyfer meddwl am gymwyseddau heddwch.
Mae’r ysgolheigion Mukhopadhyay a Kundu yn cynnig fframwaith academaidd byd-eang ar gyfer addysg sy’n canolbwyntio ar ddatblygu heddwch a chytgord. O fewn y model hwn, rhestrir empathi fel sgil bywyd hanfodol – rhywbeth mae rhywun yn ei wneud neu’n ei gyflawni – ochr yn ochr â sgiliau fel datrys problemau, meddwl yn feirniadol, creadigrwydd a chyfathrebu. Maent yn dadlau, er ei bod yn bosibl y gallai’r sgiliau hyn gael eu ‘caffael’, na ddylid gadael eu datblygiad i siawns, a dylai eu haddysgu fod yn rhan o gwricwlwm wedi ei fynegi’n glir (Mukhopadhyay a Kundu, 2023, t. 17).
Mae Polat a Halçe yn defnyddio gwaith amrywiaeth o ysgolheigion i ddiffinio empathi fel proses lle gall yr unigolyn ddeall sut gallai rhywun arall deimlo, rhoi eu hunain yn eu lle, edrych ar ddigwyddiadau o’u safbwynt nhw a chyfathrebu ag eraill drwy ba ddull bynnag sy’n angenrheidiol yn seiliedig ar y gwaith llawn empathi hwn (Polat a Halçe, 2023, t. 277). O’u safbwynt nhw, mae empathi’n fwy na dim ond deall safbwynt rhywun arall. Mae’n golygu gweithredu gyda’r ddealltwriaeth honno, cymedroli eich gweithredoedd eich hun a chyfathrebu’n glir â’r llall. Maent yn dweud bod gallu deall y byd o safbwynt rhywun arall yn gallu helpu pobl i sefydlu perthynas iach ag eraill heb ‘farnu, bychanu [na beio], a thrwy hynny leihau’r angen am wrthdaro’ (Polat a Halçe, 2023, t. 281). Roedd datblygu empathi felly’n ffocws rhaglen meithrin heddwch a redwyd gan Polat a Halçe yn Gölcük, Kocaeli (ardal llawn amrywiaeth yn Nhwrci), gyda rhywfaint o lwyddiant.
Mae’r holl ymchwil hwn yn pwysleisio bod modd dysgu empathi. Gall addysgu o’r fath ddigwydd drwy amrywiaeth o weithgareddau a meysydd cwricwlwm yn ogystal â thrwy weithgareddau bob dydd bywyd ysgol. Er enghraifft, rheoli anghydfodau ar fuarth yr ysgol neu ddiwrnodau codi arian i elusennau. Fodd bynnag, er mwyn i addysgu o’r fath fod yn llwyddiannus, mae angen i blant a phobl ifanc gael cyfleoedd rheolaidd i ymarfer datblygu empathi.
Gweithgaredd 4 Addysgu empathi
Yn y gweithgaredd hwn byddwch yn darllen am weithgaredd arall a ddefnyddir gan Peacemakers ac yn ystyried sut gallech chi ei addasu yn eich ystafell ddosbarth eich hun.
Yn yr achos hwn, mae ‘ôl troed empathi’ yn cael ei ddefnyddio fel rhan o wers am ddatrys gwrthdaro. Ond cofiwch fod empathi yn sgil y gellir ei ddatblygu ar draws y cwricwlwm fel ffordd o wella dealltwriaeth o ymddygiad dynol mewn amrywiaeth o gyd-destunau.
Darllenwch drwy'r esboniad hwn o ôl troed empathi fel mae'n ymddangos yn y llyfr gan Peacemakers, Learning for Peace, a gwnewch nodiadau yn y blwch ymateb isod am sut gallech chi ei ddefnyddio yn yr ystafell ddosbarth.
Olion traed empathi
Sylwad
Mae Peacemakers yn cynnig defnyddio gweithgaredd fel ‘ôl troed empathi’ fel ffordd o ddysgu empathi fel rhan o gwricwlwm heddwch ehangach. Mae’n bosibl eich bod chi wedi meddwl am ddefnyddio ôl troed empathi fel strategaeth ar gyfer helpu plant a phobl ifanc i archwilio gwrthdaro yn yr ystafell ddosbarth, ac ystyried sut gellid negodi atebion heddychlon. Gallai plant a phobl ifanc sydd â safbwyntiau gwahanol ar y gwrthdaro geisio dilyn ôl troed ei gilydd fel ffordd o roi eu hunain yn esgidiau’r llall.
Yn yr un modd â’r holl weithgareddau a awgrymir yn y cwrs hwn, gall ‘ôl troed empathi’ fod yn rhan o repertoire o dechnegau addysgu y gellid eu defnyddio mewn cwricwlwm ehangach. Mae'n bosibl eich bod chi wedi meddwl am sut gellid defnyddio'r gweithgaredd hwn fel rhan o ddysgu'r cwricwlwm, o bosibl gyda myfyrwyr yn chwarae rôl gwahanol gymeriadau mewn senarios o wersi llenyddiaeth a hanes, fel y gallent ddysgu deall y gwahanol safbwyntiau ynghylch pynciau penodol.
