3.1 Defnyddio empathi fel offeryn cwricwlwm – cyffwrdd â heddwch yn y byd ehangach
Gellid defnyddio gweithgaredd fel ôl troed empathi fel rhan o ddysgu cwricwlwm mewn pynciau fel hanes a llenyddiaeth, gan helpu plant a phobl ifanc i ddeall profiadau pobl sydd â phrofiadau bywyd gwahanol iawn i’w profiadau eu hunain. Mae Flores ac Albornoz Muñoz (2022) yn disgrifio pwysigrwydd gofal wrth ennyn diddordeb disgyblion a myfyrwyr mewn gweithgareddau o’r fath. Maent yn trafod defnyddio empathi hanesyddol mewn gwersi hanes gyda grŵp o blant yn Chile lle'r oeddent yn archwilio cyfnodau anodd yn ngorffennol eu cenedl.
Mae’r awduron hyn yn esbonio bod empathi hanesyddol yn gofyn am gyd-destunoli – gwybodaeth ddyfnach am brofiadau bywyd pobl eraill. Maent yn esbonio bod cymryd persbectif a gwneud cysylltiadau effeithiol ag eraill yn rhannau pwysig o empathi. Fodd bynnag, maent hefyd yn pwysleisio bod angen gwybodaeth fanwl am eu hamgylchiadau er mwyn deall safbwynt rhywun arall yn iawn, a gallai hyn gynnwys amrywiaeth o sgiliau, o wrando i allu ymchwilio a meddwl yn feirniadol am fydoedd bywyd eraill.
Er mwyn i blant a phobl ifanc gydymdeimlo, mae angen iddynt ddeall gwahaniaethau allweddol rhwng eu hamgylchiadau eu hunain ac amgylchiadau pobl eraill, yn ogystal â’u dynoliaeth gyffredin. Gan hynny, gallai gweithgaredd fel ‘ôl troed empathi’ weithio’n dda fel rhan o chwarae rôl i ddeall safbwynt pobl eraill, ond byddai angen ei leoli’n ofalus mewn cwricwlwm sy’n rhoi cymaint o wybodaeth ag sydd ei hangen i blant a phobl ifanc ddeall profiadau bywyd sy’n wahanol i’w profiadau eu hunain.
Gweithgaredd 5 Datblygu sgiliau empathi
Ewch yn ôl at y gweithgaredd ‘ôl troed empathi’. Dychmygwch eich bod chi’n defnyddio’r gweithgaredd hwn i ddatrys gwrthdaro yn yr ystafell ddosbarth. Isod ceir rhestr o gymwyseddiau addysg heddwch o adroddiad Peace education: Making the Case gan Gyngor Materion Ewropeaidd y Crynwyr. Rhennir y rhestr yn ‘wybodaeth, agweddau a sgiliau’. Byddwch yn sylwi bod empathi yn y golofn ‘agweddau’ yma. Mae hyn yn wahanol i’r syniad o empathi fel proses neu sgil y gwnaethoch ddarllen amdano’n gynharach yn yr adran hon.
| Gwybodaeth | Agweddau | Sgiliau |
|---|---|---|
| Trais uniongyrchol, strwythurol a diwylliannol | Meddwl agored a chynwysoldeb | Cydweithredu adeiladol |
| Achosion a dynameg gwrthdaro treisgar | Parchu’r hunan, pobl eraill a’r amgylchedd | Deialog |
| Dewisiadau heddychlon eraill yn lle trais | Empathi | Cyfryngu |
| Hawliau dynol rhyngwladol / rhywedd / safonau hil ac ati | Undod | Cyfathrebu di-drais (gan gynnwys cyfathrebu chwilfrydig a phendant) |
| Materion cyfoes | Cysylltiadau cymdeithasol | Deall, rheoli a mynegi emosiynau |
| Yr amgylchedd a chynaliadwyedd | Hunanymwybyddiaeth | Gwrando gweithredol |
| Prosesau dinesig | Goddefgarwch | Cydweithredu rhyngddiwylliannol |
| Heddwch cadarnhaol a heddwch negyddol | Awydd i hyrwyddo cyfiawnder | Gwaith tîm |
| Cynhwysiant ac allgáu | Cyfrifoldeb cymdeithasol | Sgiliau dadansoddi |
| Rheoli, atal, datrys a thrawsnewid gwrthdaro | Chwilfrydedd | Meddwl yn feirniadol |
| Dysgu rhyng-ffydd a rhyngddiwylliannol | Sensitifrwydd at rywedd | Trafod |
| Parodrwydd i gydweithredu | Myfyrio |
Pa sgiliau ac agweddau fydd eu hangen ar blant a phobl ifanc ar gyfer gweithgaredd fel ‘ôl troed empathi’ i feithrin heddwch mewn sefyllfa o wrthdaro yn yr ystafell ddosbarth? Defnyddiwch y blwch ymateb isod i nodi eich syniadau.
Trafodaeth
Efallai eich bod chi wedi ystyried mai un o’r sgiliau allweddol sy’n ofynnol ar gyfer empathi yw gwrando gweithredol. Ategir y sgil hon o fewn yr ôl troed empathi drwy ofyn i’r cyfranogwyr ailadrodd a chydnabod yr hyn mae’r llall wedi ei ddweud. Mae’n bosibl eich bod chi hefyd wedi ystyried sgiliau eraill, fel y gallu i gyfathrebu’n ddi-drais (hynny yw, heb farnu, cyhuddo na beio). Byddai sgiliau rheoli emosiynau yn ddefnyddiol yma, yn ogystal ag agweddau hunanymwybyddiaeth. Wrth gwrs, mae’n bosibl eich bod chi wedi nodi sgiliau ac agweddau eraill a allai fod yn ofynnol ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y gweithgaredd hwn.
Fel y gwelwch, mae gweithgaredd fel ôl troed empathi yn amhrisiadwy ar gyfer helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu eu gallu i feithrin heddwch. Fodd bynnag, er mwyn iddo fod yn effeithiol, mae angen rhoi sylw gofalus i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau, agweddau a gwybodaeth mewn amrywiaeth o weithgareddau ar draws y cwricwlwm, sy’n gofyn am addysgu amyneddgar a phenodol. Byddwch yn archwilio hyn ymhellach yn y gweithgaredd nesaf, sy'n edrych ar gyfrif o weithgarwch llenyddiaeth mewn ysgol elfennol yn yr Unol Daleithiau.
Gweithgaredd 6 Deall profiad rhywun arall drwy lenyddiaeth
Darllenwch drwy'r adroddiad hwn am weithgaredd llenyddiaeth sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth plant o faterion sy'n ymwneud â mewnfudo a diwylliant Mwslimaidd, a gynhaliwyd gyda grŵp o blant mewn ysgol yn yr Unol Daleithiau (Aziz, 2016, t. 180). Mae’r plant yn darllen llyfr o’r enw My name is Sangoel er mwyn archwilio profiadau ffoadur o Sudan yn yr Unol Daleithiau.
Yn eich barn chi, pa wybodaeth ychwanegol oedd ei hangen ar y plant i ddeall safbwynt Sangoel? Defnyddiwch y blwch ymateb i gofnodi eich syniadau.
Darn 1
Anfonodd Melanie a Zainab [yr athrawon dosbarth] arolwg adref yn gofyn i rieni rannu ystyr enw eu plentyn, ei darddiad a pham eu bod wedi ei ddewis ar gyfer y plentyn. Y llyfr cyntaf y gwnaethom benderfynu ei ddefnyddio oedd My name is Sangoel (Williams a Mohammed, 2009) lle mae Americanwyr yn ei chael hi’n anodd ynganu enw bachgen yn gywir, sy’n rhan allweddol o’i hunaniaeth ddiwylliannol fel ffoadur o Sudan. I ddechrau, roedd myfyrwyr yn meddwl ei fod yn dod o America am ei fod yn chwarae pêl-droed. Buom yn trafod termau newydd o’r llyfr: sky boat, the moving stairs at an airport a the doors that open magically when a person walks by. Gwyddai’r myfyrwyr ar unwaith fod ei ddiffyg gwybodaeth yn deillio o fyw mewn gwersyll ffoaduriaid lle nad oedd yr eitemau hyn i'w cael. Er mai cydymdeimlo â Sangoel a’i sefyllfa oedd eu hymateb, roeddent yn meddwl pe baent yn ei sefyllfa ef, y byddent yn newid eu henwau eu hunain i rywbeth haws ei ynganu. Gyda mwy o ryngweithio a thrafodaethau, daethant i sylweddoli’r ymlyniad emosiynol sydd gan bobl â’u henwau a roddwyd. Ar ôl darllen am sut roedd Sangoel yn cynrychioli ei enw fel haul a gôl bêl-droed i helpu eraill i’w ynganu, meddyliodd y myfyrwyr am eu henwau eu hunain a chreu portreadau darluniadol ohonynt eu hunain. Roeddwn i [Sema Aziz, yr ymchwilydd] yn cynrychioli fy un i gyda llygad yn dynodi ‘see’ ac yn ychwanegu’r gair ‘me’.
Trafodaeth
Mae Aziz yn disgrifio sut yr ymatebodd y myfyrwyr i sefyllfa Sangoel i ddechrau, gan feddwl y gellid datrys y cyfyng-gyngor drwy wneud peth mor syml â newid enw. Byddai hyn yn gwneud y sefyllfa’n haws i’r Americanwyr a gyfarfu Sangoel, ond nid yw’r dosbarth eto’n dangos dealltwriaeth o oblygiadau posibl hyn o ran hunaniaeth Sangoel. Yna, helpodd yr athrawon i roi’r stori yn ei chyd-destun, gan ddyfnhau dealltwriaeth y disgyblion o sefyllfa’r cymeriad drwy gydnabod tebygrwydd (pwysigrwydd enwau’r plant eu hunain) yn ogystal â gwahaniaethau (profiad Sangoel fel ffoadur) rhwng eu sefyllfaoedd.
Mae Aziz yn disgrifio sut y gwnaeth y gweithgaredd hwn arwain y plant i ofyn i eraill yn eu dosbarth sut dylid ynganu eu henwau, gan ddyfnhau eu dealltwriaeth o bwysigrwydd balchder mewn enw.
Roedd yr adran hon yn trafod pwysigrwydd empathi fel agwedd neu sgil ar gyfer meithrin heddwch rhyngom. Roedd yn ystyried sut gellir datblygu empathi fel rhan o gwricwlwm heddwch ehangach sy'n cynnwys rhoi sylw i amrywiaeth o wybodaeth, agweddau a sgiliau ar gyfer heddwch.
