Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.2 Cymwyseddau ar gyfer heddwch

Yn adran olaf y sesiwn hon, byddwch yn meddwl mwy am y cymwyseddau y gallai plant a phobl ifanc eu datblygu i fod yn adeiladwyr heddwch llwyddiannus. Ni ddylai meddwl am gymwyseddau ar gyfer heddwch arwain at asesiad ticio blychau, ond yn hytrach dylid ei ddefnyddio fel offeryn myfyriol i blant a phobl ifanc feddwl am yr hyn y gallent fel unigolion (neu’r grŵp cyfan) weithio arno i barhau i feithrin heddwch yn eu hamgylchedd addysgol.

Gweithgaredd 7 Adolygu cymwyseddau heddwch

Timing: Caniatewch tua 20 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Dechreuwch drwy fyfyrio ar yr hyn rydych chi wedi ei drafod yn y cwrs hyd yma. Nodwch eich syniadau am y sgiliau, yr wybodaeth a’r agweddau y gallai fod eu hangen ar blant a phobl ifanc i fod yn adeiladwyr heddwch llwyddiannus.

Yn awr, ewch yn ôl at gymwyseddau heddwch Cyngor Materion Ewropeaidd y Crynwyr. Ystyriwch y cwestiynau hyn:

  • Pa rai o’r rhain sydd ar eich rhestr eich hun?
  • Pa rai sydd wedi cael sylw hyd yma ar y cwrs?
  • Yn eich barn chi, a oes unrhyw rai ar goll?
  • Pa agweddau ar eich ymarfer addysgol presennol y gallech chi eu defnyddio i helpu i ddatblygu’r cymwyseddau hyn?
Cymwyseddau addysg heddwch
Gwybodaeth Agweddau Sgiliau
Trais uniongyrchol, strwythurol a diwylliannol Meddwl agored a chynwysoldeb Cydweithredu adeiladol
Achosion a dynameg gwrthdaro treisgar Parchu’r hunan, pobl eraill a’r amgylchedd Deialog
Dewisiadau heddychlon eraill yn lle trais Empathi Cyfryngu
Hawliau dynol rhyngwladol / rhywedd / safonau hil ac ati Undod Cyfathrebu di-drais (gan gynnwys cyfathrebu chwilfrydig a phendant)
Materion cyfoes Cysylltiadau cymdeithasol Deall, rheoli a mynegi emosiynau
Yr amgylchedd a chynaliadwyedd Hunanymwybyddiaeth Gwrando gweithredol
Prosesau dinesig Goddefgarwch Cydweithredu rhyngddiwylliannol
Heddwch cadarnhaol a heddwch negyddol Awydd i hyrwyddo cyfiawnder Gwaith tîm
Cynhwysiant ac allgáu Cyfrifoldeb cymdeithasol Sgiliau dadansoddi
Rheoli, atal, datrys a thrawsnewid gwrthdaro Chwilfrydedd Meddwl yn feirniadol
Dysgu rhyng-ffydd a rhyngddiwylliannol Sensitifrwydd at rywedd Trafod
Parodrwydd i gydweithredu Myfyrio
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Trafodaeth

Yn y gweithgaredd hwn, rydych chi’n meddwl am y cymwyseddau y gallai plant a phobl ifanc eu datblygu fel adeiladwyr heddwch. Mae’n bosibl eich bod chi wedi cysylltu’r adran ar ddatganiadau cadarnhaol yn Sesiwn 2 ag agwedd o hunan-barch a’r sgil o reoli emosiynau. Mae’n bosibl eich bod chi wedi ystyried sut mae cydweithredu adeiladol a gwrando gweithredol yn hanfodol ar gyfer gweithgareddau cylch.

Yn Sesiwn 6 byddwch yn gwneud gweithgaredd tebyg wrth i chi feddwl am y cymwyseddau sydd eu hangen ar addysgwyr heddwch.

Mae llawer o weithgareddau a dulliau eraill y gellir eu defnyddio i ddatblygu cymwyseddau heddwch. Er enghraifft, gallech ystyried agweddau ar gwricwlwm Addysg Grefyddol neu ABCh eich ysgol ar gyfer llesiant emosiynol ac ysbrydol, neu bynciau cwricwlwm hanes a daearyddiaeth o bosibl. Wrth i chi barhau drwy'r cwrs, ystyriwch sut gallech chi feithrin cymwyseddau heddwch ym mhob agwedd ar fywyd yn yr ystafell ddosbarth.