Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Sesiwn 4: Heddwch yn ein plith

Cyflwyniad

Mae 'Heddwch yn ein plith' yn ymwneud â datblygu ysgolion fel cymunedau dysgu lle gall pob aelod ffynnu. Mae hyn yn cynnwys staff yn ogystal â’r plant a’r bobl ifanc, a gall ymestyn i deuluoedd a’r gymuned ehangach dros amser.

Gall datblygu dull ysgol gyfan o ymdrin â heddwch yn ein plith fod yn dasg frawychus, felly mae’n ddefnyddiol i ysgolion archwilio’r amrywiaeth o fentrau a dulliau sydd ar gael. Mae’r sesiwn hon yn edrych ar gyfryngu gan gyfoedion a rhaglen Ysgolion sy’n Parchu Hawliau UNICEF. Fodd bynnag, mae dulliau eraill ar gael. Er enghraifft, ceir cynllun Ysgolion Noddfa ar gyfer ysgolion sy’n dymuno deall a chynorthwyo plant a phobl ifanc sy’n cael eu gorfodi i ffoi o’u cartrefi, a’r cynllun Ysgolion Heddwch sy’n cael ei redeg gan Gymru Global sy’n cynnig amrywiaeth o adnoddau i gefnogi ysgolion yng Nghymru ar eu taith heddwch. Darperir dolenni i’r ddau gynllun hyn yn nhudalennau adnoddau ac argymhellion y cwrs [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] hwn.

Erbyn diwedd y sesiwn, fe ddylech chi allu:

  • ystyried beth allai heddwch ei olygu yng nghymuned eich ysgol
  • deall egwyddorion craidd cyfryngu rhwng cyfoedion a’i le mewn cymunedau heddychlon
  • ehangu eich dealltwriaeth o Gymwyseddau Heddwch Cyngor Materion Ewropeaidd y Crynwyr
  • datblygu trosolwg o raglen Ysgolion sy'n Parchu Hawliau UNICEF.

Dechreuwch gyda'r fideo hwn lle mae Jane yn cyflwyno'r sesiwn.

Download this video clip.Video player: Fideo 1
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Fideo 1
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Wrth i chi weithio drwy'r sesiwn hon, meddyliwch am yr hyn y gallech chi ei wneud o fewn cylch eich dylanwad yng nghymuned eich ysgol. Beth bynnag yw eich rôl yn yr ysgol – boed yn rhiant, goruchwyliwr prydau bwyd, athro dosbarth, pennaeth – gallech ddefnyddio’r sesiwn hon i feddwl am yr hyn y gallech ei wneud i helpu i ddatblygu ‘‘heddwch yn ein plith’ yn eich cymuned.