1 Plant a phobl ifanc yn eu cymuned
Trafododd Sesiwn 1 y cwrs hwn sut gall heddwch olygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Mewn unrhyw gyd-destun, gall mentrau 'heddwch' ddod yn anghyfartal ac yn anghyfiawn os bydd un grŵp o bobl yn gosod eu gweledigaeth ar gyfer heddwch ar un arall. Mae hyn yn golygu y dylai datblygu heddwch yn ein plith mewn ysgol ddechrau gyda sgwrs am heddwch gydag amrywiaeth o grwpiau yng nghymuned yr ysgol.
Yn How to be a Peaceful School, casgliad o waith ysgrifenedig gan addysgwyr sy’n datblygu addysg heddwch, mae’r arweinydd ysgol Pali Nahal yn disgrifio taith heddwch ei hysgol gynradd. Mae disgrifiad Nahal yn dangos sut gellir sicrhau heddwch yn ein plith drwy ddatblygu strategol a phenodol sy’n cynnwys gwahanol aelodau o gymuned yr ysgol ac sy’n ymestyn i bob agwedd ar fywyd ysgol.
Dechreuodd y daith drwy ofyn i’r plant: ‘Pan fyddwch chi’n cau eich llygaid ac yn meddwl am heddwch, beth ydych chi’n ei weld?’ Ysgrifenna:
Cawsom ein synnu gan rai o’r ymatebion:
‘Heddwch yw pan fyddwn ni’n ymddiried, nid yn casáu.’
‘Heddwch yw eistedd o dan fy ngwely oherwydd dyma lle rydw i’n teimlo’n ddiogel.’
‘Heddwch yw bod yn dawel fy meddwl, teimladau hapus a pheidio â meddwl yn wael am unrhyw beth nac unrhyw un.’
Mae Nahal yn mynd ymlaen i ddisgrifio sut gwnaeth mentrau heddwch ei hysgol ystyried yr ymatebion hyn gan eu bod yn cynnwys plant, staff a rhieni yn datblygu ethos ysgol heddychlon. Er enghraifft, datblygodd staff yr ysgol set o saith gwerth ar gyfer yr ysgol y gellid eu cofio a’u cyfleu’n hawdd, ac ail-ddyluniodd y rhieni a’r plant logo’r ysgol i adlewyrchu’r gwerthoedd hynny.
Mae Nahal hefyd yn disgrifio datblygu timau arwain disgyblion lle gall plant wneud cais i fod yn aelodau o bwyllgorau sy’n cydweithio i ddatblygu meysydd penodol o fywyd ysgol. Mae’n esbonio bod y timau arwain hyn yn golygu:
Mae gan y plant ran bwysig i’w chwarae mewn penderfyniadau am strategaethau ysgol gyfan. A gallaf ddweud yn onest ein bod ni weithiau wedi teimlo’n eithaf anghyfforddus gyda’u ceisiadau. Fodd bynnag, rydym bob amser wedi cael ein profi’n anghywir, gan fod eu penderfyniadau a’u ceisiadau bob amser wedi bod yn llwyddiannus, er eu bod yn cymryd y risg.
Dim ond un ffordd o ddatblygu ysgol heddychlon yw profiad Nahal. Gall rhannu profiadau o'r fath a chydweithio helpu cymunedau addysgol i ddatblygu eu dulliau eu hunain o ymdrin ag addysg heddwch, wedi eu seilio ar eu dyheadau eu hunain am heddwch ac anghenion pob aelod.
