1.1 Cychwyn arni
Yn Sesiwn 1 fe wnaethoch chi ystyried beth oedd heddwch yn ei olygu i chi. Mae'r gweithgaredd nesaf yn eich gwahodd i ddarganfod beth mae heddwch yn ei olygu i aelodau eraill o'ch cymuned addysgol.
Gweithgaredd 1 Sut beth yw heddwch i ni?
Cymerwch funud i feddwl yn ddwys am y tri chwestiwn isod. Gallech fraslunio rhai syniadau cychwynnol yma, ond gallwch hefyd ddychwelyd at y cwestiynau dros gyfnod llawer hwy, gan roi cyfle i chi'ch hun fyfyrio arnynt wrth i chi ymgysylltu â'ch gweithgareddau bob dydd yn eich lleoliad.
Ar ôl i chi wneud y gweithgaredd hwn eich hun, ystyriwch sut gallech chi annog eraill yn eich cymuned addysgol i ymwneud â’r cwestiynau hyn. Bydd hyn yn dibynnu ar eich rôl yn yr ysgol a chylch eich dylanwad.
- Sut olwg fyddai ar heddwch yn eich cymuned addysgol?
- Beth all darfu ar heddwch eich cymuned addysgol?
- O ble daw’r egni ar gyfer heddwch yn eich cymuned (gwneud/cadw/adeiladu heddwch)?
Trafodaeth
Mae’n bosibl bod heddwch yn golygu pethau gwahanol i wahanol bobl, felly mae archwilio sut gallai heddwch edrych i’r bobl yn eich cymuned addysgol yn gam cyntaf defnyddiol ar daith heddwch. Yn dibynnu ar eich rôl yn yr ysgol, gallai’r cam hwn gael ei gymryd mewn ffordd fach, efallai dim ond yn eich ystafell ddosbarth neu yn eich lleoliad uniongyrchol, neu gallai fod yn ymdrech lawer mwy, sy’n cynnwys amrywiaeth o grwpiau yng nghymuned yr ysgol.
Mae’n amhosibl rhagweld y mathau o heriau y gallai cymunedau ysgol eu hwynebu, felly mae gweithgareddau fel y rhain yn bwysig ar gyfer dechrau myfyrdodau a sgyrsiau am heddwch mewn lleoliadau ysgol.
Sesiynau DPP
Os ydych chi’n gwneud y gweithgaredd hwn gyda grŵp, mae’n bosibl y byddwch chi eisiau rhoi amser i’r cyfranogwyr ddechrau gweithio gyda’r cwestiynau’n annibynnol cyn rhannu i barau, yna parau’n ymuno’n grwpiau o bedwar, yna’n grwpiau o wyth ac ati nes byddwch chi’n dychwelyd i weithio fel grŵp cyfan.
Cofiwch fod pob cymuned ysgol yn amrywiol o ran eu hanghenion cyfathrebu, felly mae’n bosibl y bydd angen addasu neu gyfieithu cwestiynau i wahanol ieithoedd. Dylid derbyn ymatebion i gwestiynau ar ba ffurf bynnag sy’n gyfforddus i’r cyfranogwyr. Mae’r amser y gall ei gymryd i ddeall yn llawn yr hyn mae aelodau o gymuned ysgol yn ei ddweud yn amser y mae'n werth ei dreulio.
Gall archwilio beth allai heddwch ei olygu i gymuned ysgol gyfan hefyd fod yn gyfle gwych i gyngor ysgol weithio’n ystyrlon gydag uwch arweinwyr a rhieni. Felly, er bod y cwestiynau hyn yn ymddangos yn fach, gellir eu defnyddio i danio heddwch mewn cymuned ysgol mewn amrywiaeth o ffyrdd ysbrydoledig.