Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Datblygu heddwch mewn lleoliadau addysgol

Mae gweddill y sesiwn hon yn cyflwyno dau gynllun sy’n cael eu cefnogi’n dda gan sefydliadau sy’n gweithio ledled y Deyrnas Unedig – Cyfryngu Cyfoedion ac Ysgolion sy’n Parchu Hawliau UNICEF. Mae’r ddau ddull hyn, sydd wedi hen ennill eu plwyf, yn gallu cynnig adnoddau a chymorth i ysgolion sy’n datblygu heddwch yn ein plith. Wrth i ysgolion ddatblygu eu dulliau o ymdrin ag addysg heddwch, gallant ddefnyddio mwy nag un fenter. Er enghraifft, mae Ysgolion sy’n Parchu Hawliau yn darparu fframwaith eang ar gyfer deall a pharchu hawliau lle byddai rhaglen cyfryngu i gyfoedion yn gweithio’n dda. Fodd bynnag, dylai lleoliadau addysgol ystyried yn ofalus beth sy’n addas ar eu cyfer a gwerthuso’n barhaus i ba raddau mae mentrau ehangach yn ategu dyheadau’r gymuned i feithrin heddwch.