2.1 Cyfryngu rhwng cyfoedion
Mae cyfryngu rhwng cyfoedion yn gweithio’n dda mewn ysgolion sy’n defnyddio dulliau adferol i reoli perthnasoedd yn yr ysgol. Mae dulliau adferol o fynd i'r afael â niwed yn cynnwys dod â phobl at ei gilydd i drafod y ffordd orau o fynd i'r afael â'r niwed neu'r drwgweithredu.
Mae llawer o debygrwydd rhwng addysg heddwch a dulliau adferol o ymdrin ag addysg, gan fod y ddau yn ceisio gwreiddio perthynas gadarnhaol rhwng pob aelod o gymuned ysgol mewn awyrgylch lle gall pawb ffynnu. Gallwch chwilio am fwy o wybodaeth am ymarfer adferol ar dudalen Adnoddau ac argymhellion [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] y cwrs hwn sy'n cynnwys dolenni i wybodaeth am ysgolion adferol.
Gweithgaredd 2 Cyflwyno cyfryngu rhwng cyfoedion
Gwyliwch y fideo byr hwn gan CRESST gydag Ysgol Gynradd Greystone, Sheffield, a oedd yn gyd-enillwyr yng Ngwobrau Cyfryngu Cenedlaethol 2022, lle mae rhieni, staff, disgyblion a chyfryngwyr cyfoedion yn siarad am gyfryngu rhwng cyfoedion yn eu hysgol. Wrth i chi wylio, nodwch eich syniadau cychwynnol ynghylch beth mae cyfryngu rhwng cyfoedion yn ei olygu.

Transcript: Fideo 2
Trafodaeth
Mae cyfryngu rhwng cyfoedion yn golygu hyfforddi plant a phobl ifanc i gynorthwyo pobl sy’n gwrthdaro â’i gilydd i ddod o hyd i atebion cadarnhaol i’r gwrthdaro hwnnw. O’r herwydd, gellid ei ystyried yn rhan o’r broses o wneud heddwch — rheoli gwrthdaro’n adeiladol pan fydd yn codi.
Mae nifer o gynlluniau’n cael eu rhedeg gan amrywiaeth o sefydliadau a gwasanaethau sy’n cynorthwyo cyfryngu rhwng cyfoedion yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Yn 2023, penodwyd Cydlynydd Cenedlaethol Cyfryngu gan Gyfoedion, gan adlewyrchu’r gydnabyddiaeth gynyddol i gyfryngu gan gyfoedion fel dull gwerthfawr o reoli gwrthdaro mewn ysgolion. Fodd bynnag, mae Isabel Cartwright (2018) yn pwysleisio bod angen i holl aelodau cymuned yr ysgol, gan gynnwys y pennaeth a goruchwylwyr amser cinio, gefnogi cyfryngu rhwng cyfoedion os yw am lwyddo.
Gweithgaredd 3 Archwilio cyfryngu gan gyfoedion yng Ngholeg Bacon
Gwyliwch y fideo hwn a wnaed yng Ngholeg Bacon, Llundain, sydd wedi cynnal gwasanaeth cyfryngu rhwng cyfoedion gan ddisgyblion chweched dosbarth mewn ysgol uwchradd ers bron i 20 mlynedd. Yn y fideo byddwch yn gweld deunydd o’r adeg y sefydlwyd y gwasanaeth yn 2006, yn ogystal â phobl ifanc yn siarad am effaith y gwasanaeth ar eu bywyd yn yr ysgol a thu hwnt. Wrth i chi wylio’r fideo, gwnewch nodiadau byr am y cwestiynau hyn.
- Pa fanteision allai cyfryngu rhwng cyfoedion eu sicrhau i gymuned yr ysgol?
- Beth yw rôl oedolion yng nghymuned yr ysgol o ran helpu i ddatblygu cyfryngu rhwng cyfoedion?

Transcript: Fideo 3
Sylwad
Gall cyfryngu rhwng cyfoedion rymuso plant a phobl ifanc i chwarae rhan weithredol yn y gwaith o feithrin cysylltiadau heddychlon mewn ysgolion. Yn y fideo, trafododd cyn gyfryngwyr cyfoedion yr hyfforddiant a’r profiad a gawsant a’r mathau o weithgareddau a wnaethant fel cyfryngwyr cyfoedion.
Un rôl hanfodol i oedolion wrth ddatblygu cyfryngu rhwng cyfoedion yw hyfforddi plant a phobl ifanc fel cyfryngwyr (gweler yr adran nesaf). Fodd bynnag, mae’r fideo hefyd yn dangos pa mor bwysig yw cefnogi cyfryngu yn yr ysgol a’r gymuned y tu hwnt iddi.