Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.2 Dyheadau’r ysgol a chyfrifoldeb y disgyblion

Ffigur 2 Nid oes terfyn ar yr hyn y gall plant ei gyflawni

Mae cyfryngu llwyddiannus yn helpu’r holl gyfranogwyr i symud ymlaen ac yn eu hannog i wneud ymrwymiadau a fydd yn eu galluogi i reoli gwrthdaro’n effeithiol yn y dyfodol (Peace at the Heart, 2022). Yn yr ystyr hwn, gall gefnogi datblygiad galluoedd personol plant a phobl ifanc i ryngweithio’n heddychlon â nhw eu hunain, eu cymunedau a’r byd ehangach. Fel yr eglura Kezia Herzog y cyfryngydd cyfoedion:

Mae cyfryngu’n rhan greiddiol o’n hysgol... rydyn ni’n ei werthfawrogi gymaint ac mae’r holl athrawon yn gefnogol… Dylid rhoi cyfryngu ar waith mewn ysgolion ac addysg oherwydd rydych chi’n addysgu cenhedlaeth gyfan o bobl nad ydynt yn mynd yn syth i frwydro….

Kezia Herzog, yn cael ei dyfynnu yn Peace at the Heart (2022, t. 19)

Mae Elizabeth James, cyn Gyfarwyddwr y Chweched Dosbarth yng Ngholeg Bacon, yn nodi bod yr ysgol o’r farn ‘nad oes’ cyfyngiadau ar yr hyn y gall y myfyrwyr ei gyflawni. Yn y tymor hir ac fel rhan o strategaeth ysgol gyfan, gellid ystyried bod Cyfryngu Cyfoedion yn meithrin heddwch drwy ategu dyheadau ysgolion i’w disgyblion a’u myfyrwyr fyw bywydau heddychlon yn yr ysgol a thu hwnt.

Gweithgaredd 4 Bod yn gyfryngwr cyfoedion

Timing: Caniatewch tua 10 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Gwyliwch y fideo hwn lle mae Kezia Herzog, cyn gyfryngwr cyfoedion yng Ngholeg Bacon, yn siarad am ei rôl a'r effaith mae hyn wedi ei chael ar ei bywyd y tu hwnt i'r ysgol. Wrth i chi wylio, gwnewch nodiadau ar:

  • Sut mae pobl ifanc yn dysgu cefnogi ei gilydd drwy gyfryngu gyda chyfoedion.
  • Yr effaith mae cyfryngu rhwng cyfoedion wedi ei chael ar fywyd Kezia y tu hwnt i’r ysgol.
Download this video clip.Video player: Fideo 4
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Fideo 4
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwad

Mae Kezia yn disgrifio sut mae ‘pŵer mewn gwaith cyfoedion’. Mae hi’n disgrifio sut yr ymgymerodd y bobl ifanc â’r cyfrifoldeb dros hyfforddi’r cyfryngwyr cyfoedion newydd, gan ychwanegu ymhellach at eu profiad a datblygu gweithgareddau grymus y disgyblion yn yr ysgol.

Mae Kezia yn disgrifio sut defnyddiwyd ei sgiliau mewn cyfryngu rhwng cyfoedion yng Ngholeg Bacon a thu hwnt, gan helpu cymuned yr ysgol i ymgysylltu â'r gymuned o'u cwmpas. Mae Kezia hefyd yn sôn am sut gwnaeth hi drosglwyddo’r sgiliau a ddysgodd i’w bywyd personol a phroffesiynol ar ôl ysgol, gan sefydlu cynllun cyfryngu i gyfoedion yn yr ysgol lle mae hi bellach yn gweithio fel athrawes.