Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.3 Hyfforddi cyfryngwyr cyfoedion

Un rôl hanfodol i oedolion sy’n sefydlu cyfryngu rhwng cyfoedion mewn ysgol yw hyfforddi plant a phobl ifanc fel cyfryngwyr. Gall yr hyfforddiant cychwynnol gymryd 2–3 diwrnod, ac mae’r gefnogaeth i gyfryngwyr yn parhau gyda goruchwyliaeth barhaus a sesiynau cadw mewn cysylltiad. Mae hyn yn golygu ei bod yn bwysig bod cymunedau ysgol sy’n dechrau ar eu gwaith ar gyfryngu gan gyfoedion yn gofyn am gymorth gan asiantaethau arbenigol yn y camau cynnar. Mae’r blwch isod yn cynnwys dolenni i rai o’r asiantaethau arbenigol sy’n gweithio yn y maes hwn.

Asiantaethau sy’n cynnig hyfforddiant cyfryngu i gyfoedion

Mae gan sefydliadau fel Canolfan Gyfryngu Southwark (rhan o Calm Mediation [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ers 2020), a welsoch yn y fideo, neu Peacemakers, y gwnaethoch ddechrau archwilio eu hadnoddau yn y sesiwn flaenorol, gyfoeth o brofiad ac arbenigedd mewn hyfforddi plant a phobl ifanc mewn cyfryngu. Mae gan lawer o sefydliadau ledled y Deyrnas Unedig y profiad hwn, fel Scottish Mediation. Mae gan y Cyngor Cyfryngu Sifil Weithgor Cyfryngu Cyfoedion, sef rhwydwaith o fudiadau ledled y Deyrnas Unedig sy’n gweithio i hyrwyddo cyfryngu rhwng cyfoedion. Mae UNICEF hefyd yn disgrifio rhaglenni cyfryngu i gyfoedion mewn ysgolion y tu allan i’r Deyrnas Unedig, fel y rhain yn Kosovo a Belarus.