Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.4 Cymwyseddau a chyfryngu rhwng cyfoedion

Isod ceir poster gan Scottish Mediation [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] a ddefnyddir i amlinellu rhai o’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfryngwyr cyfoedion. Gellid dysgu’r sgiliau hyn drwy’r hyfforddiant a gynigir gan wasanaethau cyfryngu i gyfoedion fel y rhai yn y blwch yn Adran 2.3, ond gellir eu dysgu hefyd i boblogaeth yr ysgol gyfan drwy weithgareddau bob dydd yn yr ystafell ddosbarth fel y rhai rydych chi’n darllen amdanynt wrth i chi weithio drwy’r cwrs hwn.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 3 Poster gan Scottish Mediation

Gweithgaredd 5 Meithrin sgiliau a chymwyseddau ar gyfer cyfryngwyr cyfoedion a’u ‘cleientiaid’

Timing: Caniatewch tua 10 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Isod, ceir rhestr o gymwyseddau adroddiad QCEA Making the Case, a welsoch yn Sesiwn 3.

Cymwyseddau addysg heddwch
Gwybodaeth Agweddau Sgiliau
Trais uniongyrchol, strwythurol a diwylliannol Meddwl agored a chynwysoldeb Cydweithredu adeiladol
Achosion a dynameg gwrthdaro treisgar Parchu’r hunan, pobl eraill a’r amgylchedd Deialog
Dewisiadau heddychlon eraill yn lle trais Empathi Cyfryngu
Hawliau dynol rhyngwladol / rhywedd / safonau hil ac ati Undod Cyfathrebu di-drais (gan gynnwys cyfathrebu chwilfrydig a phendant)
Materion cyfoes Cysylltiadau cymdeithasol Deall, rheoli a mynegi emosiynau
Yr amgylchedd a chynaliadwyedd Hunanymwybyddiaeth Gwrando gweithredol
Prosesau dinesig Goddefgarwch Cydweithredu rhyngddiwylliannol
Heddwch cadarnhaol a heddwch negyddol Awydd i hyrwyddo cyfiawnder Gwaith tîm
Cynhwysiant ac allgáu Cyfrifoldeb cymdeithasol Sgiliau dadansoddi
Rheoli, atal, datrys a thrawsnewid gwrthdaro Chwilfrydedd Meddwl yn feirniadol
Dysgu rhyng-ffydd a rhyngddiwylliannol Sensitifrwydd at rywedd Trafod
Parodrwydd i gydweithredu Myfyrio

Gwyliwch y fideo hwn gan Young Talk, sefydliad Cyfryngu Cyfoedion yr Alban, mewn partneriaeth â’r Crynwyr ym Mhrydain. Wrth i chi wylio, meddyliwch am y sgiliau a’r cymwyseddau mae’r cyfryngwyr Cyfoedion yn eu datblygu.

Download this video clip.Video player: Fideo 5
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Fideo 5
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Yn awr, gan feddwl am yr hyn rydych chi wedi ei ddysgu hyd yma am gyfryngu â chyfoedion, defnyddiwch y blwch isod i nodi’r cymwyseddau mae cyfryngwyr cyfoedion ifanc a’u cleientiaid yn eu datblygu. Mae’n bosibl y byddwch chi eisiau defnyddio tri chategori fel y dangosir isod: un ar gyfer cyfryngwyr, un ar gyfer cyfranogwyr (cleientiaid), ac un ar gyfer y ddau.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Trafodaeth

Byddwch wedi sylwi bod ‘cyfryngu’ wedi ei restru’n benodol fel sgil yn y tabl cymwyseddau heddwch. Mae gwrando’n astud yn ganolog i gyfryngu rhwng cyfoedion ac mae’r bobl ifanc yn tynnu sylw ato yn y fideo. Bydd hyn yn bwysig i gyfryngwyr ifanc ac i’r rhai sy’n rhan o unrhyw wrthdaro sydd angen lle i wrando ar ei gilydd.

Mae’n bosibl eich bod chi hefyd wedi nodi’r sgiliau a’r agweddau a drafodwyd gennych chi wrth ystyried empathi yn Sesiwn 3 – gwrando gweithredol, sgiliau dadansoddi, gwrando’n ofalus a chasglu gwybodaeth. O’r fideos rydych chi wedi eu gwylio, mae’n bosibl eich bod chi wedi sylwi ar y pwyslais ar weithio drwy anawsterau yn hytrach na beirniadu a beio, er mwyn i bawb sy’n gysylltiedig ddatblygu eu sgiliau mewn cysylltiad cymdeithasol a gwaith tîm.

Yn ogystal â’r rhain, roedd y fideo gan Young Talk, a’r poster yn Ffigur 3 yn pwysleisio rheoli emosiynau a chyfyngu ar yr ego, felly mae hunanymwybyddiaeth a dealltwriaeth, rheoli a mynegi emosiynau hefyd yn gymwyseddau pwysig i gyfryngwyr.

Fel y gwelwch, dim ond un agwedd ar fywyd ysgol yw cyfryngu rhwng cyfoedion fel ffordd o gynorthwyo’r gwaith o ddatblygu cymwyseddau heddwch ar gyfer pob aelod o gymunedau ysgolion. Fodd bynnag, fel y gwelsoch hefyd, cyflawnir hyn yn fwyaf llwyddiannus mewn gwaith strategol i ddatblygu gallu lleoliadau addysgol i adeiladu cymunedau cryf lle gall pob aelod ffynnu.