3 Gweithredu dros newid – Ysgolion sy’n Parchu Hawliau
Mae rhan olaf y sesiwn hon yn cynnig cyflwyniad byr iawn i fenter Ysgolion sy'n Parchu Hawliau UNICEF (y Deyrnas Unedig). Yn yr un modd â chyfryngu rhwng cyfoedion, mae hon yn fenter genedlaethol arall sy’n cael cefnogaeth gref ac sy’n gallu cynorthwyo’r gwaith o ddatblygu heddwch yn ein plith mewn cymunedau ysgol.
Mae gwaith UNICEF yn seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn 1989 (CCUHP). Mae gan bob plentyn dynol yr hawliau hyn. Mae Ysgolion sy’n Parchu Hawliau yn ceisio sicrhau bod plant yn ymwybodol o’u hawliau, ac yn grymuso plant i fynnu eu hawliau a chynnal hawliau pobl eraill. Mae crynodeb o'r confensiwn ar gael ar wefan UNICEF [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
Mae dod yn Ysgol sy’n Parchu Hawliau yn dibynnu ar arferion bob dydd plant ac oedolion yng nghymuned yr ysgol (UNICEF, 2024). Mewn ysgolion o’r fath, mae dysgu am hawliau yn rhan o’r cwricwlwm ac mae’r hawliau hynny’n cael eu harfer ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol.
Gweithgaredd 6 Meithrin heddwch mewn Ysgol sy’n parchu hawliau
Gwyliwch y fideo byr hwn gan y dosbarth crisial yn Ysgol Fabanod Mount Stewart sy’n Parchu Hawliau UNICEF, drwy’r ddolen isod.
Wrth i chi wylio, meddyliwch am y canlynol:
- Pa gymwyseddau heddwch y gallai’r plant fod yn eu datblygu?
- Beth allai’r plant fod yn ei ddysgu am eu rôl yn meithrin heddwch yn y byd?
Trafodaeth
Byddwch wedi sylwi ar y cyfeiriad at Erthygl 39 CCUHP yn y fideo. Mae’r erthygl lawn yn datgan:
Er na allwch chi fod yn siŵr pa fathau o weithgareddau a arweiniodd at wneud y fideo hwn, efallai eich bod chi wedi ystyried bod y plant yn datblygu eu gwybodaeth am hawliau dynol ac effeithiau gwrthdaro treisgar. Mae’n bosibl eich bod chi hefyd wedi ystyried eu bod nhw’n datblygu agweddau at gyfrifoldeb cymdeithasol, cysylltedd cymdeithasol ac undod wrth iddynt feddwl am sut gallent groesawu ffoaduriaid i’w hysgol. Yma maent yn dechrau dod ar draws agweddau ar heddwch yn y byd ehangach, y byddwch yn darllen mwy amdanynt yn Sesiwn 5.
Mae prosiect i wneud fideo fel hwn yn galluogi’r plant i archwilio beth mae hawliau o’r fath yn ei olygu i wahanol bobl mewn gwahanol gyd-destunau. Mewn Ysgolion sy’n Parchu Hawliau, mae’r cwricwlwm yn ymdrin yn benodol ag addysgu am bob erthygl yn CCUHP. Gall gwreiddio addysgu am hawliau yng nghwricwlwm yr ysgol a bywyd ehangach yr ysgol helpu plant a phobl ifanc i feithrin dealltwriaeth fanwl o’u hawliau eu hunain a’r hyn y gallant ei wneud i gynnal hawliau pobl eraill.

