Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.1 Archwilio'r byd ehangach o safbwynt hawliau plant

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ein hatgoffa hefyd bod hawliau plant yn ymestyn i agweddau ar brofiadau pobl a gaiff effaith ddofn ar fywydau plant a phobl ifanc, ond sy’n gallu bod yn anodd neu’n heriol i blant a phobl ifanc eu harchwilio. Eto i gyd, daw plant a phobl ifanc ar draws profiadau heriol bob diwrnod. Gall profiadau o’r fath amrywio o bryderon ynglŷn â’r newyddion i brofiadau uniongyrchol o drais. Mae profiadau, dealltwriaeth a phryderon plant ynglŷn â rhyfel a gwrthdaro yn enghraifft o hyn, sef elfennau yr ymdrinnir â nhw yn Erthyglau 38 a 39.

Erthyglau 38 a 39
Erthygl 38 Erthygl 39
Ni ddylai llywodraethau ganiatáu i blant dan 15 oed gymryd rhan mewn rhyfel nac ymuno â’r lluoedd arfog. Rhaid i lywodraethau wneud popeth o fewn eu gallu i ofalu am blant y mae rhyfel a gwrthdaro yn effeithio arnynt. Rhaid i blant sydd wedi dioddef esgeulustod, camdriniaeth, camfanteisio neu artaith, neu blant sydd wedi dioddef rhyfel, gael cymorth arbennig i’w helpu i adfer eu hiechyd, eu hurddas, eu hunan-barch a’u bywyd cymdeithasol.

Mae UNICEF yn dadlau y gall archwilio pynciau o’r fath mewn amgylchedd sensitif a chadarnhaol gynnig sicrwydd i blant a phobl ifanc. Er enghraifft, mae’r pecyn addysgu Exploring War and Conflict [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] yn cynnwys gweithgareddau ar gyfer helpu addysgwyr i drafod gwrthdaro treisgar yn eu dosbarthiadau.

Mae’n cynnwys gweithgareddau sy’n annog plant i ystyried ffyrdd o ofyn am gymorth ac mae’n cymell trafodaethau ynglŷn â’r pethau sy’n gwneud iddynt deimlo’n ddiogel. Yn bwysig, caiff addysgwyr eu hatgoffa i gydbwyso’r arfer o drafod pynciau heriol gyda gobaith ac optimistiaeth. Yn sesiwn 5 y cwrs, byddwch yn archwilio’r materion hyn yn fanylach wrth ichi droi at feddwl am heddwch yn y byd ehangach.

Mae adran olaf y sesiwn hon wedi rhoi trosolwg byr o raglen Ysgolion sy'n Parchu Hawliau UNICEF yn y Deyrnas Unedig. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y fenter drwy ddilyn y dolenni i wefan UNICEF ei hun ar dudalen Adnoddau ac argymhellion y cwrs hwn, lle mae gwybodaeth a chymorth ar gael.