Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Gobaith

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 1 Mae ymgyrchwyr hinsawdd fel Vanessa Nakate (chwith) a Greta Thunberg (dde) yn ysbrydoli gobaith a symudiadau ar gyfer newid

Yn 2018, yn 15 oed, ysgrifennodd yr ymgyrchydd amgylcheddol Greta Thunberg golofn ar gyfer The Guardian [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , papur newydd yn y Deyrnas Unedig. Eglurodd Thunberg fod ei rhwystredigaeth ynghylch diffyg gweithredu gan oedolion yn Sweden ynghylch newid yn yr hinsawdd wedi ei hysgogi i ddechrau streic ysgol, gan adael ei hystafell ddosbarth i eistedd y tu allan i senedd Sweden.

Yn y golofn, gwnaeth Thunberg y pwynt:

Os byddaf i’n byw i fod yn 100 oed, byddaf yn fyw yn 2103. Yn aml, nid yw oedolion yn meddwl y tu hwnt i’r flwyddyn 2050. Ond erbyn hynny, yn yr achos gorau, ni fyddaf wedi byw hanner fy mywyd. Bydd yr hyn rydyn ni’n ei wneud neu ddim yn ei wneud ar hyn o bryd yn effeithio ar fy mywyd i a bywydau fy ffrindiau, ein plant a’u hwyrion.

(Thunberg, The Guardian, 2018)

Mae sylw Thunberg yn ein hatgoffa bod plant a phobl ifanc yn poeni am faterion yn y byd o’u cwmpas ac yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol ganddynt. Gall eu cynorthwyo i ddatblygu sgiliau a phriodoleddau sy’n eu galluogi i gymryd safiad di-drais eu helpu i ddod yn ddinasyddion cenedlaethol a byd-eang gyda gobeithion am ddyfodol cadarnhaol.