1.1 Deall gobaith
Mae meithrin heddwch yn golygu meithrin gobaith sydd nid yn unig yn cefnogi llesiant pobl ond sydd hefyd yn eu grymuso gyda’r modd i weithio tuag at eu nodau ar gyfer newid. Eglura’r ysgolhaig Katrina Standish:
Mae Gobaith… yn arf yn erbyn sawl modd o drais sy’n effeithio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar ddiwallu anghenion dynol.
Mae Standish yn dadlau y gall colli gobaith arwain at drais wrth i bobl golli eu gallu i ddychmygu byd lle gallai pethau fod yn wahanol. Yn y gweithgaredd nesaf hwn byddwch yn archwilio model amlddimensiwn Standish o obaith ac yn ystyried sut gellid ei ddefnyddio fel offeryn ymarferol ar gyfer heddwch.
Gweithgaredd 1 Natur amlddimensiwn gobaith
Isod ceir diagram o ddimensiynau cydgysylltiedig gobaith (Standish, 2019). Cyfatebwch y diffiniadau ym mhob un o’r blychau isod drwy eu llusgo i bob un o ddimensiynau gobaith ym model Standish.
Wrth i chi wneud y gweithgaredd hwn, ystyriwch sut mae gobaith yn cysylltu pob haen o heddwch a drafodir yn y cwrs hwn. Gallech hefyd ystyried sut gallai gobaith gael ei drwytho drwy'r holl agweddau ar lesiant a amlinellir yn Sesiwn 2.
Sylwad
Caiff gobaith ei drwytho drwy bob agwedd ar addysg heddwch ac mae’n agwedd hanfodol ar lesiant. Mae Standish yn pwysleisio bod gobaith yn gyfannol ac na ellir gwahanu ei elfennau oddi wrth ei gilydd. Er enghraifft, gall gobaith gwybyddol, lle mae unigolion a grwpiau’n teimlo bod ganddynt yr hawl i gyflawni eu nodau, ddeillio o obaith emosiynol a’i gefnogi, a gall hyn gael effaith gadarnhaol ar lesiant corfforol.
Er mwyn rheoli cymhlethdod y problemau mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu heddiw mae angen gobaith (Peace at the Heart, t. 31). Ym marn Standish, mae meddwl gobeithiol yn gwella meddwl beirniadol, gan ddatblygu gallu pobl i gymryd camau tuag at y newidiadau sydd eu hangen yn y byd yn eu barn nhw. Mae gallu gobeithio yn gallu helpu pobl i weld y potensial ar gyfer newid cadarnhaol yn y camau gweithredu lleiaf, hyd yn oed.