Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.2 Meddwl am arferion di-drais

Ynghyd â gobaith, mae ymrwymiad i arferion di-drais wrth wraidd addysgwyr heddwch. Mae'r cymdeithasegydd Stellan Vinthagen yn dadlau y gellid ystyried di-drais fel defnyddio dulliau di-drais i gyrraedd nodau (di-drais), yn ogystal â mynd ati i weithio yn erbyn trais ei hun (Vinthagen, 2015). Mae hyn yn cynnwys yr holl ffyrdd y gallai trais amlygu ei hun – yn uniongyrchol, diwylliannol a strwythurol. Mae ymchwil wedi dangos bod gweithredu di-drais yn aml yn fwy effeithiol nag y gallai pobl ei ddisgwyl (Stephan a Chenoweth, 2008).

Yn y gweithgaredd a ganlyn, sy’n dod o adnodd sydd wedi cael ei greu gan y Ganolfan Addysg Datblygu yn Ne Swydd Efrog (DECSY), byddwch yn ystyried ystyr dyfnach arferion di-drais.

Gweithgaredd 2 Archwilio arferion di-drais

Timing: Caniatewch tua 10 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Datblygwyd y gweithgaredd hwn yn wreiddiol i’w ddefnyddio gan grwpiau o blant a phobl ifanc rhwng 8 a 14 oed. Mae’r gweithgaredd gwreiddiol ar gael ar wefan DECSY [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Cyn llenwi’r fersiwn ar-lein hon, efallai yr hoffech ailedrych ar y gwahanol fathau o drais y gwnaethoch ddarllen amdanynt yn Sesiwn 1.

Trefnwch y datganiadau a ganlyn ar gontinwwm o’r rhai rydych yn eu hystyried yn dreisgar i’r rhai y gellid eu hystyried yn rhai di-drais (peidiwch ag anwybyddu’r system sgorio yma gan y bydd atebion i’r cwestiwn hwn yn gwbl oddrychol). Wrth i chi eu didoli a’u gosod yn yr ardal wen uchod, ystyriwch y cwestiynau hyn:

  • Beth ydych chi’n ei ddefnyddio wrth wneud penderfyniad?
  • Pa ffactorau cyd-destunol y gellid eu hystyried wrth lunio barn?
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwad

Mae llawer o ystyriaethau a allai effeithio ar drafodaeth ynghylch yr hyn y gellid ei ystyried yn dreisgar neu’n ddi-drais. Ystyriaeth hanfodol yw deall yn llawn ganlyniadau gweithred a’r niwed y gallai ei achosi i’r bywydau dan sylw (amgylcheddol yn ogystal â dynol). Un arall yw bod yn siŵr nad oedd eich gweithredoedd yn cynnwys hadau rhagor o anghyfiawnder a thrais.

Mae DECSY, a ddatblygodd y gweithgaredd, yn awgrymu y gallai cyfranogwyr hefyd ystyried:

  • a oedd y bobl dan sylw yn gweithredu gyda bwriadau treisgar neu ddi-drais
  • a oedd elfen o dwyll yn y weithred
  • a wnaed difrod i eiddo neu fodau byw.

Gallai ffactorau cyd-destunol ychwanegol gynnwys fframweithiau cyfreithiol, fel y rhai sy’n effeithio ar yr hawl i brotestio, a diogelwch a llesiant pawb sy’n gysylltiedig.

Sesiynau DPP

Os ydych chi’n gwneud y gweithgaredd hwn gyda grŵp, anogwch drafodaeth am bob un o’r camau gweithredu ar y cardiau. Dylai cyfranogwyr archwilio unrhyw ddatganiad nad ydynt yn siŵr ohono a bod yn barod i wrando ar wahanol safbwyntiau. Nid sicrhau consensws yw’r nod, ond archwilio’r cwestiynau a godwyd.

Fel y gwelsoch, mae llawer o ffactorau’n effeithio ar p’un a fyddai gweithred yn cael ei hystyried yn dreisgar neu’n ddi-drais. Gellir defnyddio gweithgareddau fel hyn sy’n cael eu rheoli’n ofalus i helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau beirniadol i wneud penderfyniadau gwybodus. Wrth i chi barhau drwy'r sesiwn hon, fe allech chi ystyried rôl yr athro mewn gweithgaredd o'r fath a sut gallech ei addasu ar gyfer y plant a'r bobl ifanc rydych chi'n gweithio gyda nhw.

Yng ngweddill y sesiwn hon, byddwch yn archwilio enghreifftiau o waith cwricwlwm dros heddwch yn y byd ehangach o ysgolion cynradd ac uwchradd yn y Deyrnas Unedig.