2 Wangari’s Trees of Peace – dechrau gyda stori
Wangari Maathai oedd sylfaenydd Mudiad Gwregys Gwyrdd Kenya, sy'n ysbrydoli cymunedau i ofalu am yr amgylchedd a gwella bywoliaeth. Hi oedd y fenyw gyntaf o Affrica i ennill Gwobr Heddwch Nobel, ac mae'r mudiad a sefydlodd yn ffynnu heddiw.
Dywedodd Wangari Maathai (2003) ‘Pan fyddwn yn plannu coed, rydym yn plannu hadau heddwch a hadau gobaith. Rydyn ni hefyd yn sicrhau dyfodol i’n plant.’
Yn yr Alban, defnyddiodd staff a disgyblion Ysgol Gynradd Oakgrove yn Glasgow y llyfr Wangari’s Trees of Peace fel ysbrydoliaeth ar gyfer drama amgylcheddol a gyflwynwyd ganddynt i Senedd yr Alban. Yng Ngweithgaredd 3, byddwch yn archwilio eu gwaith.
Gweithgaredd 3 Defnyddio straeon yn y cwricwlwm heddwch
Gwyliwch y fideo hwn am Ysgol Gynradd Oakgrove yn Glasgow a’u prosiect wedi ei ysbrydoli gan stori Wangari Maathai fel y’i hadroddir yn y llyfr Wangari’s Trees of Peace.
Wrth i chi wylio, ystyriwch:
- Sut mae’r prosiect yn cyd-fynd â’r cwricwlwm ehangach ac ethos yr ysgol?
- Pa gymwyseddau heddwch ydych chi’n meddwl y gallai’r plant fod yn eu datblygu?

Transcript: Fideo 2
Trafodaeth
Mae Ysgol Gynradd Oakgrove yn benodol yn addysgu plant am faterion byd-eang ehangach a’u heffaith ar eu cymuned. Roedd y prosiect Coed Heddwch yn gysylltiedig â'r cwricwlwm gwyddoniaeth lle'r oedd plant yn dysgu am natur yn eu hamgylchedd lleol, a'r ffyrdd y gallai fod mewn perygl. Drwy'r prosiect, bu'r plant yn archwilio sut gallent ymgysylltu â materion o'r fath, o siarad â'u cymunedau uniongyrchol i gyflwyno eu gwaith i Senedd yr Alban.
Y cymhwysedd heddwch mwyaf nodedig y soniodd yr athrawon amdano oedd empathi, ond datgelwyd cymwyseddau ychwanegol yn nhrafodaethau’r plant. Mae’n bosibl eich bod chi wedi sylwi ar awydd i hyrwyddo cyfiawnder, cyfathrebu di-drais, a pharch at yr amgylchedd.
Roedd cyfranogwyr ar ddiwrnod y perfformiad plant yn Senedd yr Alban yn teimlo fod hwn wedi chwarae rhan yn y gwaith o ysbrydoli Aelodau o Senedd yr Alban (ASA) i lofnodi cynnig yr ASA Michelle Thomson i gefnogi addysg heddwch yn yr Alban (Waddell, 2023). Ym mis Tachwedd 2024, cafodd y cynnig hwn gefnogaeth drawsbleidiol. Gan hynny, mae cyfranogiad y plant mewn cwricwlwm heddwch gobeithiol wedi eu grymuso i greu newidiadau yn eu cymunedau lleol ac ar lefel genedlaethol.
Ym mis Hydref 2025 cefnogodd Senedd yr Alban lansiad Platfform Heddwch yr Alban [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] sy'n cysylltu adeiladwyr heddwch ledled yr Alban. Mae'r platfform newydd hwn yn rhan o waith i gefnogi'r Alban i ddod yn llais dros heddwch yn y byd ac ystyrir bod addysg heddwch yn rhan bwysig o hyn.
